Hanes y Prosiect

Sut i Chwarae’r Fideo

Symudwch eich llygoden dros y sgrin deledu i weld botymau rheoli’r fideo.

play button Cliciwch i chwarae’r fideo

stop button Cliciwch i atal y fideo dros dro

seek bar Bar canfod; llusgwch y saeth fach.

sound Cliciwch i ddistewi’r sain

Gall y fideo gymryd peth amser i lwytho dros gysylltiad rhwydwaith araf, felly byddwch amyneddgar!

“Pan glywais y term ymgysylltu â dinasyddion am y tro cyntaf doeddwn i ddim yn siŵr beth oedd ei ystyr. Roedd y gair dinesydd yn gwneud i mi feddwl am Robert Lindsay fel Citizen Smith yn codi ei ddwrn a gweiddi “Power to the People!” a phan ddes i wybod mwy sylweddolais mai dyna’r hyn a olyga yn ei hanfod, neu mai dyna’r hyn y mae am ei olygu”
(Un o fudd-ddeiliaid y prosiect)

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, drwy ei bolisi Creu’r Cysylltiadau, yn rhoi’r lle blaenaf i bobl mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae gennym ni ddinasyddion, bellach, hawl A chyfrifoldeb i wneud ein rhan i wella’r gwasanaethau a ddefnyddir gennym ni ac eraill. Serch hynny, hoffai llawer o bobl gael cyfle i fod yn rhan o hynny ond nid ydynt yn gwybod sut i wneud hynny ac mae llawer o’r “swyddogion” sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu a threfnu’r gwasanaethau yn ei chael yn anodd ymgysylltu â phobl hŷn.

Yn Ionawr 2007 roedd partneriaeth Gweithred Bositif 50+ Caerffili, sydd yn gweithredu o fewn fframwaith y Strategaeth Pobl Hŷn yng Nghymru, yn ystyried rhai o’r heriau hyn. Roedd y bartneriaeth yn awyddus i ystyried sut y gallai’r gwasanaethau lleol gynnwys mwy o bobl hŷn. Cafodd y syniad ei grybwyll mewn cyfarfod o Gydlynwyr Strategaeth Pobl Hŷn ac o hynny y tarddodd y syniad o brosiect Ymchwil Ymgysylltu â Dinasyddion 50+.

Mae’n enw gweddol fawr ac mae’r dyheadau’n fawr hefyd. Y nod yw sicrhau bod pobl 50+ yn ganolog yn y broses o wneud penderfyniadau am gomisiynu, cynllunio a chyflwyno gwasanaethau i bobl hŷn. Er mwyn cyflawni hyn daeth gwahanol fudd-ddeiliaid o wahanol rannau o Gymru ynghyd i weithio ar y prosiect.

Roedd hyn yn cynnwys 11 o awdurdodau lleol, Age Concern Cymru, Gwell Llywodraeth i Bobl Hŷn, Grŵp Ymgynghorol Pobl Hŷn, Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC), Gofal a Thrwsio Merthyr, Cynghrair Iechyd Caerffili, tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol Caerffili, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent a Fforwm 50+ Caerffili. Cafodd y prosiect gefnogaeth ac arian gan Strategaeth Pobl Hŷn a Chreu’r Cysylltiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cyflawnwyd y prosiect mewn dwy ran. Yn y rhan gyntaf gwnaed arolwg o’r ymchwil gyfredol ar y rhwystrau rhag ymgysylltu â phobl hŷn a’u cynnwys fel dinasyddion, gan nad oeddem yn awyddus i fynd dros unrhyw hen dir. Gwnaeth Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru’r gwaith hwn ar gyfer y prosiect a llunio adroddiad cynhwysfawr a oedd yn sylfaen i ail ran yr ymchwil.

Yn yr ail ran gwnaed y gwaith treialu a lluniwyd y pecyn cymorth. Y nod oedd datblygu a phrofi dulliau gwahanol ac arloesol o gynnwys pobl. Tyfodd syniadau’r peilot allan o syniadau ac adborth gan bobl hŷn mewn grwpiau ffocws ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerfyrddin a Chonwy a Sir Ddinbych. Cynhaliwyd gweithdai mewn gwahanol rannau o Gymru gan gynnwys gweithwyr proffesiynol a’r gwahanol fudd-ddeiliaid a oedd yn aelodau o fwrdd y prosiect.

Cynhaliwyd pum peilot mewn gwahanol rannau o Gymru, sef yn Sir Ddinbych, Caerffili, Merthyr a Chaerdydd a’r Fro. Roedd y rhain yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn bleser gweithio gyda’r grwpiau i gyd, a’u gwylio’n datblygu dulliau llwyddiannus o gynnwys pobl. Ceir manylion am y treialu yn y pecyn. Nod y pecyn yw creu adnodd a fydd ar gael ar y we ac yn argraffedig ar gyfer pobl hŷn sydd am i eraill glywed eu barn A HEFYD ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd yn awyddus i ymgysylltu’n well â phobl dros hanner cant oed. Ein gobaith yw y bydd o ddefnydd i chi ac y bydd yr wybodaeth a’r syniadau sydd ynddo’n help i chi fedru sicrhau y clywir llais pobl hŷn yn glir.

Hoffai tîm y prosiect ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio arno yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bu’n waith tîm cyfan a gobeithio bydd y pecyn yn adnodd defnyddiol i bobl hŷn, i weithwyr proffesiynol ac i sefydliadau.