Mae’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n amhosibl a’r hyn sy’n bosibl ym mhenderfynoldeb rhywun.
Martina Navratilova
Cawn ein prif ogoniant nid trwy beidio byth â methu ond trwy godi bob tro yr ydym yn syrthio.
Confucius
Os nad ydych yn methu’n awr ac yn y man mae’n dangos eich bod yn chwarae’n saff.
Woody Allen
Mae meddwl segur yn lle i’r diafol chwarae.
Dihareb Americanaidd
Gwell owns o atal na phwys o iachâd.
Dihareb Americanaidd
Mae angen pentref i fagu plentyn.
Dihareb Americanaidd
Mi fyddwn ni’n fethiant oni bai am fy holl gamgymeriadau.
Dihareb Americanaidd
Mae’r hen geffyl yn y stabl yn dal i awchu am redeg 1000 o filltiroedd.
Dihareb Tsieineaidd
Po hynaf y sinsir poethaf y sbeis.
Dihareb Tsieineaidd
Dydw i ddim yn teimlo bod rhaid i mi fod yn deyrngar i’r naill ochr na’r llall. Dim ond gofyn cwestiynau ydw i.
Ffilm 12 Angry Men
Edrychwch i’r dyfodol, canys dyna lle byddwch yn treulio gweddill eich oes.
George Burns
Pan oeddwn yn ifanc, fe’m galwyd yn unigolydd garw. Pan oeddwn yn fy mhumdegau, fe’m galwyd yn ecsentrig. A dyma fi’n awr yn gwneud ac yn dweud yr un pethau ac mae pobl yn fy ngalw’n hen a hurt.
George Burns
Mae’n bechod bod yr holl bobl sy’n gwybod sut i redeg y wlad yn brysur yn gyrru tacsis a thorri gwallt.
George Burns
Peidiwch byth â blino ar brotestio. Yn y busnes sensitif hwn o ymdrin â’r cyhoedd, sy’n dibynnu ar ffydd ac ewyllys da, mae protestio’n arf tra effeithiol. Protestiwch felly.
George Seldes
Mae pob syniad mawr yn ddadleuol, neu wedi bod felly ar un adeg.
George Seldes
Cysondeb yw dihangfa olaf y rhai diddychymyg.
Oscar Wilde
Nid yw rhywbeth o angenrheidrwydd yn wir gan fod dyn yn fodlon marw drosto.
Oscar Wilde
Y dull mwyaf anfoesegol o’r cwbl yw’r diffyg defnydd o unrhyw ddull o gwbl.
Saul Alinsky
Os oes trefniadaeth anferthol gennych, dylid ei frolio i’r gelyn, a dangoswch eich grym yn eglur.
Saul Alinsky
Mae grym yn cael ei ddenu at ddau begwn: at y rhai sydd ag arian ac at y rhai sydd â phobl.
Saul Alinsky
Mae gan Gymdeithas ddigon o resymau dros ofni’r sawl sy’n radicalaidd. Mae pob cynnydd ansicr a wnaed gan ddynolryw tuag at gydraddoldeb a chyfiawnder wedi dod gan y rhai radical.
Saul Alinsky
Dwi erioed wedi bod â barn ostyngedig. Os oes gennych farn, pa werth bod yn ostyngedig yn ei chylch?
Joan Baez