Ymgysylltu â Dinasyddion a’r Problemau

Beth yw Problem mewn perthynas ag Ymgysylltu â Dinasyddion?

Mae’n rhywbeth sydd yn ysgogi pobl i weithredu ynglŷn â rhywbeth y maent yn teimlo’n angerddol amdano.

Enghreifftiau:

Y nifer y bobl sydd yn dod yn ddinasyddion gweithredol pan fygythir cau eu hysbyty GIG leol. Mae cau ysbytai’n fater sydd yn denu sylw a gweithgarwch llawer o ddinasyddion.

Gwelwyd gostyngiad yn y nifer a fu’n pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae’r gostyngiad hwn yn poeni rhai pobl, a gwleidyddion yn arbennig. Ond mae’n amlwg nad yw’n poeni pawb – neu mi fyddent yn codi allan i bleidleisio! Yn groes i wrthwynebu cau ysbyty, nid yw pleidleisio’n boblogaidd.

Mae pennawd dychmygol yn y papur newydd isod yn dangos sut y gall pobl brotestio ar y stryd am fater y maent yn teimlo’n angerddol amdano.

News paper cut

Rhwystrau - teclynnau

Cymerodd Jan ran yn yr ymgyrch i achub ei Swyddfa Bost leol rhag cau. Er gwaethaf y deisebau, y llythyrau a’r gwaith lobïo gyda’r AS lleol a chynghorwyr, caewyd Swyddfa’r Post. Wedi i’r holl helynt farw i lawr, gadawyd Jan yn teimlo’n ddig, nid yn unig oherwydd bod y lle wedi cau ond hefyd oherwydd na chafodd y gymuned resymau dilys pam y dylai eu Swyddfa’r Post gau.

Mae profiad Jan yn ein hatgoffa pam nad yw ymgysylltu â dinasyddion yn waith syml. I ddechrau, cafodd Jan reswm amlwg am chwarae ei rhan fel dinesydd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn deall bod cau ysgolion, ysbytai a Swyddfeydd Post lleol yn fater i’r trethdalwyr. Ond os bydd y broses ymgynghori’n gadael pobl yn teimlo’n anfodlon - yn teimlo eu bod wedi cael eu diystyru - daw ail broblem i’r amlwg. O ganlyniad, maent yn teimlo’n anfodlon gyda’r broses ddemocrataidd ac mae hyn yn tyfu’n rhwystr rhag iddynt ymgysylltu fel dinasyddion yn y dyfodol.

Yn y PECYN CYMORTH hwn, rydym wedi darparu teclynnau i drin rhwystrau o’r fath..

Rydym wedi nodi hefyd mor bwysig yw meddwl am y math o ymgysylltu â phobl sydd yn angenrheidiol i sicrhau llwyddiant.

Rhestr o Declynnau