Rhwystrau rhag Ymgysylltu â Phobl

Mae Beryl wedi gweld poster yn hysbysebu cyfarfod ynglŷn â gwneud y strydoedd yn ddiogelach i bobl hŷn. Bydd y cyfarfod am 7.30 yr hwyr ar 30ain Tachwedd rywle tua milltir o gartref Beryl. Byddai’n hoffi mynd ond nid oes ganddi ffordd o gyrraedd yno. Mae ei harthritis yn ddrwg. A boed hynny fel y bo, y tro diwethaf iddi fynd i gyfarfod fel hyn, chafodd hi ddim cyfle i ddweud dim.

Mae Sam hefyd wedi gweld poster yn hysbysebu cyfarfod ynglŷn â gwneud y strydoedd yn ddiogelach i bobl hŷn. Bydd y cyfarfod hwn am 2 y pnawn ar 20fed Mehefin. Mae Sam yn gweithio’n llawn amser ac yn gofalu am ei fam oedrannus - ac am ei wyrion. Mae Sam yn poeni am ddiogelwch ar y strydoedd a bu’n weithgar gyda’r cynllun Gwarchod Cymdogaeth ond does ganddo ddim amser - yn arbennig yn ystod y dydd.

 

Dyma ddwy stori fach sydd yn dangos y gwahanol rwystrau rhag cynnwys pobl. Byddai Beryl a Sam yn hoffi ymgysylltu mwy fel dinasyddion- ond nid oes modd iddynt wneud. Mae pethau’n eu rhwystro. Maent yn wynebu rhwystrau megis amseroedd y cyfarfodydd, problemau gyda theithio neu ormod o ymrwymiadau eraill. Rhaid cofio bod llawer o rwystrau eraill a all wynebu pobl, megis methu’n gorfforol â mynd i mewn i adeilad, y ffaith nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, neu’n syml nad ydynt wedi clywed am y cyfarfod. Mae llawer o bobl yn wynebu mwy nag un rhwystr.

Nid yw’r rhwystrau rhag cynnwys pobl yn rhai syml. Mae popeth yn dibynnu ar y bobl ac ar yr amgylchiadau. Rhaid i ni hefyd gadw mewn cof bod dwy ochr i rwystr.

Mae Jenny’n gweithio i’r awdurdod lleol mewn diogelwch cymunedol. Mae hi newydd gychwyn ar ei swydd. Rhaid i Jenny drefnu ymgynghoriad gyda phobl hŷn ynglŷn â gwneud y strydoedd yn fwy diogel i bobl hŷn. Mae’n meddwl bod y cyngor eisoes wedi penderfynu ar yr hyn mae am ei wneud. Nid yw hi wedi gwneud llawer o waith ym maes cynnwys aelodau o’r cyhoedd o’r blaen ac felly mae hi wedi penderfynu gwneud arolwg ar bapur. Fodd bynnag, nid yw hi’n siŵr at bwy nac i ble y dylid anfon yr holiaduron i sicrhau eu bod yn cyrraedd pobl hŷn yn yr ardal.

Mae’r stori fach hon yn dangos beth all fod yn digwydd ‘o ran yr ochr arall’. Gall gweithwyr proffesiynol hefyd wynebu pob math o rwystrau neu ffactorau sydd yn eu hatal rhag ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd.

Rhwystrau rhag ymgysylltu â phobl – teclynnau

Pan fydd rhwystr yn eich wynebu, beth wnewch chi?

  • Neidio drosto?
  • Ei daro i lawr?
  • Ei anwybyddu?
  • Ei osgoi trwy ddewis ffordd arall o weithredu?
  • Mynd oddi tano?
  • Disgwyl iddo ddiflannu?

Wrth gwrs, mae’n dibynnu pa fath o rwystr sydd yn eich wynebu. Rydym wedi llunio ychydig o declynnau a all helpu mewn sefyllfa felly a chan fod dwy ochr i rwystrau fel arfer, rydym wedi meddwl am hynny hefyd.

Adnabod eich rhwystrau

Mae Beryl a Sam yn wynebu rhwystrau gwahanol rhag ymgysylltu. Mae rhwystrau o bob lliw a llun ar gael. Mae’n hawdd adnabod rhai, ond gall eraill fod ynghudd - fel mae Jenny wedi sylwi.

Y rhwystrau mwyaf cyffredin.

Safbwynt pobl hŷn am rwystrau

Rhestr wirio – defnyddio safbwynt pobl hŷn (20k, PDF)

Safbwynt gweithwyr proffesiynol am rwystrau

Rhestr wirio – defnyddio safbwynt gweithwyr proffesiynol (21k, PDF)

Deall y rhwystrau a wynebir gennych

Weithiau gall fod yn hawdd chwalu’r rhwystrau. Er enghraifft, gallech drefnu cludiant neu dalu costau tacsi rhywun ayb.

Gall rhai rhwystrau fod yn anodd iawn ymdopi â hwy. Er enghraifft, weithiau mae rhagfarnau pobl am yr unigolyn neu’r sefydliad sydd yn gofyn y cwestiynau’n dod rhyngddynt ac yn peri iddynt beidio â chymryd rhan. Mae hyn yn anos i’w ddatrys a rhaid i chi ganfod beth yw’r broblem wirioneddol cyn y gellwch geisio ei hateb.

Cynllun ar gyfer trafodaeth grŵp ynglŷn â rhwystrau

Diagram rhwystrau ar ben rhwystrau

Mae’r cysyniad hwn o ‘rwystrau ar ben rhwystrau’ yn golygu bod angen i ni wneud mân newidiadau i safbwyntiau pobl hŷn ac i safbwyntiau gweithwyr proffesiynol.

Mynd i’r afael â’ch rhwystrau

Mae gwahanol rwystrau yn gofyn am wahanol ffyrdd o ymdrin â hwy. Fel y gwelwyd yn y storïau bach, nid yw hysbysebu cyfarfod yn ddigon. Hefyd, un peth yw trefnu ymgynghoriad ond yr her yw sicrhau bod yr ymgynghoriad hwnnw’n ystyrlon i bawb a’i fod yn arwain at ganlyniadau ymarferol.

Er mwyn helpu gyda hyn, rydym yn cynnig teclynnau sydd yn caniatáu i chi fabwysiadu ymagwedd lawnach a mwy cytbwys at ymdrin â’r hyn sydd yn rhwystro pobl rhag cael eu cynnwys. Ni fydd morthwyl yn datrys eich holl broblemau wrth wneud gwaith yn y cartref, ac yn yr un modd ni fydd yr un teclyn yn datrys holl heriau ceisio cynnwys pobl.

Gweithdy a fydd o gymorth i chi i ganfod gwahanol ffyrdd o weithredu

Pum ffordd sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth i ni geisio chwalu rhwystrau

Ffyrdd eraill o chwalu rhwystrau a gwneud y cysylltiadau

57 a mwy! Gwahanol ffyrdd o ymgysylltu â phobl (Yn agor mewn ffenestr newydd)