News Centre

Llythyr agored at drigolion a busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili

Postiwyd ar : 29 Hyd 2021

Llythyr agored at drigolion a busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gyda Chalan Gaeaf a noson tân gwyllt yn prysur agosáu, mae'n teimlo'n fel mae’r gaeaf rownd y gornel.
 
Yn anffodus, mae'r adeg hon o'r flwyddyn hefyd yn dod â thymor y ffliw a phwysau ychwanegol yn y gaeaf ar wasanaethau'r GIG a'r Cyngor, sydd eisoes o dan straen enfawr oherwydd y pandemig COVID-19 cyfredol.
 
Mae mor bwysig ein bod ni i gyd yn cadw'n wyliadwrus ac yn deall nad yw coronafeirws wedi diflannu. Mae'n parhau i fod yn fygythiad gwirioneddol i fywydau llawer o bobl yn ein cymuned ni, felly, nid nawr yw'r amser i fod yn hunanfodlon.
 
Rwy'n sylweddoli ein bod ni i gyd wedi blino ar y cyfyngiadau a'r aflonyddwch mae'r pandemig wedi'i achosi dros y 18 mis diwethaf. Fodd bynnag, mae'n bwysig cydnabod bod effaith coronafeirws ar rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed ni yn dal i fod yn ddifrifol iawn.

Darllen fwy o'r llythyr agored (pdf)


 


Ymholiadau'r Cyfryngau