Y ganolfan newyddion

Chwilio Newyddion

Newyddion Diweddar
Mae'n bleser gennym ni gyflwyno amrywiaeth o weithgareddau difyr i ddiddanu'r plant a’u cadw’n egnïol yn ystod gwyliau'r Pasg. Anturiaethau yn y pwll nofio, Cynlluniau Chwaraeon, a mwy – mae'r arlwy'n addo wythnos sy'n llawn chwerthin, dysgu a chyfeillgarwch i drigolion ifanc ein cymuned fywiog.
Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i ddarparu gwasanaeth eithriadol a chynnal y safonau uchaf ar draws ein canolfannau hamdden, mae Dull Byw Hamdden yn cyhoeddi addasiad prisiau cymedrol, sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2024.
Yn ystod cyfarfod Cabinet a gafodd ei gynnal ddydd Mercher 20 Mawrth 2024, fe wnaeth Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gytuno ar y manylion am wasanaeth ailgylchu newydd ar gyfer eiddo masnachol, yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru o ran ailgylchu yn y gweithle.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi croesawu Wythnos Gweithredu Gwastraff Bwyd yr ymgyrch Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff, drwy roi gwobr £500 i un o'i drigolion sy'n ailgylchu gwastraff bwyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r manylion am gynllun rhyddhad ardrethi dros dro newydd y bydd eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch yn elwa ohono o fis Ebrill 2024.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyhoeddi diwygiadau i’r meini prawf dyrannu ar gyfer caeau pob tywydd. Mae'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu tirwedd esblygol rygbi a phêl-droed ac yn darparu ar gyfer newidiadau sydd wedi'u gwneud gan y cyrff llywodraethu priodol. Bydd y meini prawf dyrannu yn dod i rym ym mis Mehefin 2024 yn barod ar...