Cyngor ar brynu ci bach

Mae nifer cynyddol o gŵn bach yn cael eu mewnforio i’r DU yn anghyfreithlon o ffermydd cŵn yn Nwyrain Ewrop. Mae’r cŵn hyn yn cael eu gwerthu drwy hysbysebion ar y rhyngrwyd ac mewn hysbysebion bychain mewn papurau newydd. Darperir dogfennaeth ffug gyda’r cŵn sydd yn arwain y prynwyr i gredu eu bod wedi cael eu mewnforio’n gyfreithlon neu eu magu yn y DU.

Mae’r DU yn rhydd o’r Gynddaredd ac mae’r rheolau a’r rheoliadau ynglŷn â mewnforio anifeiliaid mewn lle er mwyn cadw statws di-gynddaredd y DU. Mae cŵn bach yn cael eu smyglo i’r DU heb gael eu brechu yn erbyn y gynddaredd yn gyntaf neu maent wedi cael y brechiad yn rhy ifanc ac mae felly’n aneffeithiol. 

Mae milfeddygon fel arfer yn gweld cŵn bach am y tro cyntaf pan eir a hwy am eu harchwiliad cyntaf. Os oes gan filfeddygon yn y DU unrhyw amheuon ynglŷn â chyfreithlondeb y gwaith papur ynglŷn â mewnforio neu os yw’r microsglodyn yn deillio o du allan y DU, mae ganddynt ymrwymiad cyfreithiol i hysbysu’r Gwasanaeth Safonau Masnach er mwyn ei ymchwilio.

Os gwelir fod y ci bach wedi cael ei fewnforio’n anghyfreithlon BYDD yn cael ei roi mewn cwarantin, a bydd rhaid i’r perchnogion, nid y gwerthwr, dalu’r ffioedd. Gall y ffioedd fod yn uwch na £1000.

Pethau i’w cofio wrth brynu ci bach

  • Byddwch yn amheus os ni all y gwerthwr ddangos y ci bach gyda’r fam a’r cŵn bach eraill o’r un dorllwyth. Edrychwch ar y ci bach lle cafodd ei fagu.
  • Dysgwch cymaint â phosib ynglŷn ag o ble daeth y ci bach a nodwch os yw’r gwerthwr o du allan i’r DU.
  • Os yw’r ci bach wedi cael brechiad gofynnwch i weld y ddogfennaeth. Mae’n rhaid i hwn ddatgan ym mha filfeddygfa y gwnaethpwyd hyn. Byddwch yn amheus os yw cyfeiriad y filfeddygfa y tu allan i’r DU. 
  • Os yw’r gwerthwr yn eich hysbysu fod y ci bach wedi ei fewnforio dylai gael basbort anifail anwes neu dystysgrif gan filfeddyg.
  • Peidiwch BYTH â chytuno i gael y ci bach wedi ei gludo i’ch cartref neu i gwrdd â’r gwerthwr i’w gasglu. Os yw’r gwerthwr eisiau i chi wneud hyn byddwch yn amheus.
  • Peidiwch BYTH â thalu am y ci bach o flaen llaw.

Os oes gennych amheuon ynglŷn â chi bach yr ydych yn bwriadu prynu siaradwch gyda’ch milfeddyg neu Wasanaeth Safonau Masnach Caerffili.

Os ydych yn amau fod ci bach eich bod wedi prynu wedi dod o wlad arall a’i fod heb Basbort Anifeiliaid Anwes mae’n bosib ei fod yn groes i ddeddfwriaeth y DU ynglŷn â’r gynddaredd, cysylltwch contact us.

Cysylltwch â ni