Diwrnodau casglu gwastraff

O 28 Hydref bydd eich diwrnodau casglu gwastraff yn newid. Bydd pob un o’ch biniau bellach yn cael eu casglu ar yr un diwrnod.

Nod y newid hwn yw creu gwasanaeth casglu gwastraff mwy effeithlon a hawdd ei ddefnyddio ar gyfer ein trigolion.  Bydd y ffordd newydd hon o weithio yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff modern a chynaliadwy.

Amlder casgliadau

Nid yw ein hamrywiaeth o wasanaethau casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd na'r amlder yn newid. Mae amlder y casgliadau yn parhau fel a ganlyn:

Diwrnodau casglu gwastraff presennol tan 27 Hydref

Gallwch chi barhau i wirio eich diwrnodau casglu presennol, argraffu’r calendr neu ei lawrlwytho i’ch dyfais.

Gallwch chi weld eich diwrnodau casglu presennol yma

Diwrnodau casglu gwastraff newydd o 28 Hydref

Gallwch chi weld eich diwrnodau casglu newydd, argraffu’r calendr neu ei lawrlwytho i’ch dyfais.  Noder, ni fydd y newidiadau hyn yn dod i rym tan 28 Hydref. Os na fydd eich eiddo yn cael ei effeithio, parhewch i roi eich gwastraff a deunydd ailgylchu allan i’w casglu ar eich diwrnod(au) casglu arferol.

Gallwch chi weld eich diwrnodau casglu yma

Telerau Gwasanaeth

  • Sicrhewch fod yr holl wastraff a deunydd ailgylchu allan i'w casglu cyn 5.30am.
  • Rhaid i chi allu storio eich biniau oddi ar y briffordd rhwng y diwrnodau casglu.
  • Nid yw gwyliau banc yn effeithio ar y gwasanaeth casglu gwastraff.
  • Rhowch ddeunydd ailgylchu ychwanegol mewn bagiau clir wrth ymyl y ffordd.
  • Ni fyddwn ni’n casglu gwastraff cyffredinol ychwanegol sydd wedi’i osod wrth ymyl eich bin. Gallwch chi barhau i fynd â'ch gwastraff i unrhyw Ganolfan Ailgylchu i Gartrefi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cofiwch ddod â phrawf o gyfeiriad ac i ddidoli unrhyw ddeunydd ailgylchu cyn eich ymweliad.
  • Ni fyddwn ni’n casglu biniau sydd â’u caeadau yn hollol agored
  • Gall y rhai sydd heb fin gwastraff cyffredinol osod uchafswm o 3 bag wrth ymyl y ffordd bob pythefnos. 
  • Os ydych chi'n poeni am y gofod cyfyngedig y tu allan i'ch eiddo, mae modd rhoi deunydd ailgylchu allan i'w gasglu gan ddefnyddio bocsys ailgylchu neu fagiau plastig clir yn lle biniau.
  • Gall tywydd garw effeithio ar ein gwasanaethau. Byddwn ni'n ceisio casglu'r gwastraff erbyn diwedd yr wythnos. Os bydd tywydd garw yn para am fwy nag wythnos, bydd trefniadau amgen yn cael eu rhoi ar y dudalen gwastraff heb ei gasglu.
  • Nid ydyn ni’n casglu gwastraff ar Ddydd Nadolig na Dydd Calan. Byddwn ni'n hysbysebu trefniadau amgen ar y wefan yn nes at yr adeg.
  • Mynnwch wybod beth sy'n mynd yn y bin a sut rydyn ni'n delio gyda’ch gwastraff.

Am ragor o gyngor, cysylltwch â ni.

Rhowch eich adborth o ran y wefan hon.