Yn ddigartref neu’n wynebu’r risg o fod yn ddigartref?

Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o golli eich cartref, mae'n ddyletswydd ar y Cyngor o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i ymchwilio i'ch sefyllfa a darganfod sut y gallwn o bosib eich helpu.

Cysylltwch â Thîm Opsiynau Tai Caerffili ar 01443 873552 i gael gwybodaeth am dai a'r opsiynau sydd ar gael i chi.

O 5pm ddydd Iau 1 Mehefin, bydd y rhif ffôn cyswllt y tu allan i oriau ar gyfer digartrefedd yn newid. Os ydych chi'n cael eich hun yn ddigartref neu'n ddigartref ac angen cysylltu â rhywun mewn argyfwng, ffoniwch 01443 875500.

Os ydych yn cael eich bygwth â digartrefedd o fewn y 56 diwrnod nesaf byddwn yn gweithio gyda chi i gymryd pob cam rhesymol i atal y digartrefedd rhag digwydd, naill ai drwy weithio gyda chi i gadw eich cartref presennol neu drwy ddod o hyd i lety arall.

Os ydych eisoes yn ddigartref, byddwn yn cymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i lety arall i chi, gan helpu am hyd at 56 diwrnod ar ôl i chi ddod yn ddigartref. Gelwir hyn yn ddyletswydd i liniaru digartrefedd.

Bydd disgwyl i chi weithio gyda'ch gweithiwr achos i gytuno ar gamau rhesymol a allai gynnwys:

  • cynnig llety addas gyda landlord preifat
  • cynnig o lety addas gyda chymorth
  • cymorth i sicrhau llety rydych wedi canfod eich hun
  • cynnig o dai Landlord Cymunedol addas trwy’r Cofrestr Tai Cyffredin

Os ydych o hyd yn ddigartref ar ôl 56 diwrnod

Os nad ydym wedi gallu eich cartrefu a'ch bod wedi gwneud popeth y gofynnwyd i chi ei wneud, byddwn yn penderfynu a oes dyletswydd arnom i barhau i'ch cynorthwyo.

Os ydych wedi gwrthod cynnig llety addas, gan gynnwys yn y sector preifat, neu os nad ydych wedi dilyn y rhestr o gamau y cytunwyd arnynt, efallai na fydd gennych hawl i gael rhagor o gymorth.

Os ydych wedi dilyn y camau gweithredu y cytunwyd arnynt ac nad ydych wedi llwyddo i ddod o hyd i dŷ addas, byddwn yn ceisio darganfod a ydych yn un o'r grwpiau angen blaenoriaethol, ac a oedd eich digartrefedd o ganlyniad i rywbeth rydych wedi'i wneud neu wedi methu â'i wneud.

Ar ddiwedd y 56 diwrnod, os ydym yn fodlon eich bod yn un o'r grwpiau angen blaenoriaethol ac nad ydych yn ddigartref o fwriad, byddwn yn parhau i'ch helpu i ddod o hyd i gartref newydd.

Os nad oes gennych unman i aros

Os credwn y gallech fod yn gymwys, yn ddigartref a bod gennych angen blaenoriaethol ymddangosiadol ac na allwn ddatrys eich sefyllfa yn y tymor byr neu ganolig, ceisiwn ddarparu llety dros dro.

Os nad oes gennych unrhyw le diogel i aros byddwn yn gwneud popeth a allwn i ddod o hyd i rywle i aros ar sail dros dro tra byddwch yn gweithio gyda ni i ddod o hyd i ateb

Os darperir llety dros dro, efallai y gofynnir i chi adael:

  • os ydych yn torri amodau eich cytundeb
  • os ydych wedi gwrthod cynnig o lety addas, gan gynnwys llety rhent preifat
  • rydym yn penderfynu eich bod wedi gwneud eich hun yn fwriadol ddigartref
  • nid ydych wedi gwneud popeth y mae eich gweithiwr achos wedi gofyn i chi ei wneud
  • os oes gennych lety addas ar gael i chi

Prawf Digartrefedd Bwriadol

Rydym wedi dewis cymhwyso prawf digartrefedd bwriadol i'r holl grwpiau a restrir yn adran 70 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

  • Y grwpiau hyn yw:
  • Menyw feichiog
  • Person y mae plentyn dibynnol yn byw gydag ef/hi
  • Rhywun sy'n agored i niwed o ganlyniad i henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd ac ati
  • Rhywun sy'n ddigartref o ganlyniad i argyfwng, e.e. llifogydd, tân neu drychineb arall
  • Rhywun sy'n ddigartref o ganlyniad i gam-drin domestig
  • Person 16 neu 17 oed
  • Unigolyn rhwng 18 a 21 oed y tybir ei fod mewn perygl o gael ei ecsbloetio'n rhywiol neu'n ariannol
  • Person 18 a 21 oed a oedd yn derbyn gofal, yn cael eu lletya neu'n cael eu maethu gan awdurdod lleol tra'u bod o dan 18 oed
  • Rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac sy'n ddigartref ar ôl cael ei ryddhau o'r lluoedd arfog
  • Unigolyn sydd â chysylltiad lleol â'r awdurdod lleol, sy'n agored i niwed o ganlyniad i fod yn y ddalfa, ac sy'n ddigartref pan gaiff ei ryddhau o'r ddalfa.

Gwneud cais am dai Landlord Cymunedol

Rydym bellach yn gweithredu 'Cofrestr Tai Cyffredin' lle gallwch wneud cais am dai Landlord Cymunedol gyda'r cyngor a gyda landlordiaid tai cymunedol eraill ym mwrdeistref sirol Caerffili gydag ond un cais ar-lein.

Os hoffech wneud cais am dai Landlord Cymunedol bydd angen i chi gwblhau ein ffurflen gais am dŷ ar-lein. Ymwelwch â'n Hadran Ceisio am Dai am fanylion.

Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai

Os ydych chi'n byw yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili, dros 16 oed ac yn ei chael hi'n anodd cadw'ch cartref, mewn perygl o golli'ch swydd, angen symud neu angen help gyda'ch cyllid, gallai'r Tîm Cefnogi Pobl gynnig cymorth i chi. Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai

 

Cysylltwch â ni