Gorchmynion Rheoleiddio Traffig

Beth yw Gorchmynion Rheoleiddio Traffig?

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yw’r ddogfen gyfreithiol y mae’n ofynnol ei chael i gefnogi ystod o fesurau sy’n rheoli neu’n cyfyngu’r defnydd a wneir o ffyrdd cyhoeddus. Mae’r mesurau hynny’n cynnwys:

  • Llinellau melyn dwbl
  • Strydoedd unffordd
  • Troadau a waherddir
  • Lonydd bysiau

Pam y mae angen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig arnom?

Mae cyfraith y DU yn mynnu bod Gorchmynion Rheoleiddio Traffig ar gael er mwyn galluogi’r heddlu, neu’r cyngor yn achos llinellau melyn a lonydd bysiau, i orfodi’r cyfyngiadau hynny.

Creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig

Er mwyn creu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, rhaid dilyn y weithdrefn statudol ganlynol:

  • Ymgynghori â’r gwasanaethau brys a chyrff cyhoeddus eraill. Gellir ymgynghori â grwpiau buddiant lleol, megis preswylwyr a masnachwyr, lle bo hynny’n briodol.
  • Hysbysebu’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig drwy osod hysbysiad yn y wasg leol ac arddangos hysbysiadau ar y ffyrdd yr effeithir arnynt. Yna, caiff gwrthwynebiadau eu hystyried drwy’r weithdrefn briodol cyn penderfynu sut yr ymdrinnir â’r mater.
  • Llunio a chyflwyno’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn ffurfiol. Gall y broses gyfan gymryd misoedd lawer i’w chwblhau, yn enwedig os bydd gwrthwynebiadau’n golygu y bydd y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael ei newid a’i ail-hysbysebu.

Yr hysbysiadau sydd ar waith ar hyn o bryd

Mae’r hysbysiadau canlynol ar waith ar hyn o bryd:

Cysylltwch â ni