Beicio Mynydd

Mae Coedwig Cwmcarn yn lle delfrydol ar gyfer pawb sy’n mwynhau antur. Mae cwrs Y Mynydd yn cynnig dewis o linellau ar y top a’r canol. Enwau’r llwybrau yw’r llwybr coch a’r llwybr du. Mae angen sgiliau da arnoch (a thipyn o ddewrder!) Mae’r rhain yn llwybrau eithafol a dim ond ar gyfer beicwyr profiadol y maen nhw'n addas.

Mae’r llwybr wedi ei greu i fod yn heriol, gyda nodweddion fel ysgafellau, twnnel, grisiau maen, pont, naid glun a bwlch y chwarel. Gallwch ddewis seiclo dros y neidiau neu o’u hamgylch. Mae pas i’r mynydd ar gael ar www.cwmdown.co.uk

Mae Llwybr y Twrch hefyd yng Nghoedwig Cwmcarn. Llwybr 1.5km o’r radd flaenaf yw hwn, ac nid yw’n addas ar gyfer y gwangalon. Mae’r llwybr cyfan bron ar drac sengl drwy goetiroedd llydanddail a chonwydd a chribynnau agored.

Mae Llwybr y Twrch a’r gwasanaeth lifft yn cychwyn o’r maes parcio.

Sut i gyrraedd yma

Dilynwch yr arwyddion brown at y Ffordd Goedwig o gyffordd 28 yr M4.

Cysylltwch â ni

Ar y we yn gyffredinol

Cognation MTB Trails | Cwmdown | Mountain Biking Wales