Cofnodion ac archifau

Mae dwy Swyddfa Cofnodion y mae eu gwasanaethau ar gael i drigolion bwrdeistref sirol Caerffili. Swyddfa Cofnodion Gwent a Swyddfa Cofnodion Morgannwg. 

Mae’r ddwy swyddfa Cofnodion yn casglu a chadw cofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth am siroedd hanesyddol Gwent a Morgannwg, ac yn gosod y cofnodion hyn ar gael i’r cyhoedd. 

Gall y cofnodion a ddalir ddyddio nôl mor bell a’r 13eg ganrif hyd at heddiw, a gall fod yn ymwneud â:

  • Llywodraeth leol yn y siroedd
  • Unigolion a sefydliadau preifat: er enghraifft, cofnodion yn ymwneud ag ystâdau, teuluoedd, busnesau a diwydiannau
  • Cofnodion eglwysig, gan gynnwys cofrestu bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau
  • Mapiau
  • Llysoedd yr Ynadon a Chrwneriaid
  • Cofrestr Llongau
  • Cofnodion Maenoraidd a degwm
  • Copiau Microfiche o ffurflen gyfrifiad a Mynegai Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i Enedigaethau, Priodasau a Marwolaethau 

Gall y Swyddfa Cofndion eich helpu gyda’r canlynol:

  • Dilyn hanes eich teulu
  • Darganfod hanes eich tref, pentref neu dŷ
  • Ymchwilio ar gyfer ysgol, coleg neu ddosbarth nos.

Archifau Gwent 

Mae’r gwasanaeth yn cynnal cofnodion archifol sy’n ymwneud â Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Archifau Morgannwg

Mae Archifau Morgannwg yn darparu’r gwasanaeth archif ar gyfer 6 awdurdod lleol de Cymru – Pen-y-bont ar ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Sir Morgannwg.

Tudalennau Cysylltiedig

Chwiliadau hanes teuluol | Olrhain eich achau