Dewis Coed Duon

Canol tref Coed Duon yw'r ail dref fwyaf yn y Fwrdeistref Sirol ac mae'n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd manwerthu a busnes yn un o'r strydoedd mawr mwyaf eang yng Nghymoedd De Cymru.

Mae Coed Duon yn hawdd i'w gyrraedd gan fws neu gar, gyda llefydd parcio ar gael mewn nifer o leoliadau cyfleus ledled canol y dref.  Mae Coed Duon yn cynnig cyswllt gwych i brif lwybrau trafnidiaeth,  wedi'i lleoli ond 25 munud o'r M4 a gyda mynediad hawdd at yr A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd a llwybrau'r A40/M50 i Orllewin Canolbarth Lloegr.   Roedd adeiladu'r Gyfnewidfa Fysiau arobryn hefyd wedi cynyddu hygyrchedd y dref i bobl o'r ardaloedd cyfagos, ac yn cynnig cysylltedd gwell â dinasoedd mawr megis Casnewydd a Chaerdydd.

Ewch i'n hadran drafnidiaeth a pharcio sy'n cynnwys gwybodaeth am fysiau a thacsis a manylion am y meysydd parcio sydd ar gael yng Nghoed Duon.

Mae’r hen dref lofaol hon yn llawn hanes y Siartwyr ac mae’n cynnig ystod eang o fanwerthwyr annibynnol ynghyd ag enwau cyfarwydd.  Mae canol y dref hefyd yn gartref i Sefydliad y Glowyr eiconig ynghyd â'r sinema annibynnol boblogaidd, Maxime, Blackwood Little Theatre a'r grŵp celfyddydau perfformio, Studio 54.  Mae Lle'r Farchnad, sydd wedi'i leoli yng nghanol y dref, yn gartref i farchnad awyr-agored bob dydd Mawrth a dydd Gwener, gan gynnig dewis eang o nwyddau gan fasnachwyr lleol.  Mae Parc Manwerthu Porth Coed Duon a Pharc Manwerthu Coed Duon hefyd wedi'u lleoli ar gyrion canol y dref ac yn cynnal ystod o fanwerthwyr, archfarchnadoedd a mannau bwyd cenedlaethol, gyda nifer o'r siopau yma yn cynnig cyfleoedd siopa gyda'r hwyr.

Mae Cyngor Tref Coed Duon yn cynorthwyo llawer o fentrau’r dref yn weithredol, ynghyd â rhaglen digwyddiadau Cyngor Caerffili sy’n cael eu cynnal yng nghanol y dref trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Parti Traeth Coed Duon a Ffeiriau'r Gwanwyn a'r Gaeaf, Coed Duon.

Mae'r manylion am raglen ddigwyddiadau'r Cyngor ar gael ar wefan Croeso Caerffili.

Mae'r ardal gyfagos yn cynnig nifer o weithgareddau hamdden ac adloniant, gan gynnwys pyllau nofio a dosbarthiadau ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Cefn Fforest a Chanolfan Hamdden Trecelyn, a gweithgareddau awyr agored yng Nghanolfan Hamdden Pontllan-fraith. Mae ymwelwyr yn yr ardal yn gallu ymestyn eu coesau ym Mhwll Pen-y-fan neu fwynhau'r golygfeydd anhygoel ar draws Parc Gwledig Cwm Sirhywi.

Cafodd Wi-Fi am ddim ei gyflwyno ledled canol y dref yn ddiweddar, ac mae ymwelwyr yn gallu cysylltu trwy'r rhwydwaith ‘FreeCCBCWifi’.   Mae cyllid hefyd wedi’i sicrhau ar gyfer Coed Duon fel rhan o Grant Creu Lleoedd rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei ddyrannu tuag at wneud gwelliannau i fannau cyhoeddus yn y dref.

Ap Tref Glyfar - Dyddiad lansio 18 Mai 2023

Mae Coed Duon yn dref smart. Lawrlwythwch yr ap ‘VZTA Smart Towns’ i archwilio Coed Duon yn eich llaw a darganfod beth sydd ar gael yn y dref! Siopa, gwybodaeth am fusnesau a chynnyrch, dod o hyd i'r anrheg berffaith neu le i fwyta, atyniadau i'w gweld a lleoedd i ymweld â nhw – mae ‘VZTA’ yn dod â Coed Duon at ei gilydd, ac yn ei gwneud hi'n gyflym a hawdd i chi ei darganfod a'i harchwilio.

Lawrlwytho VZTA

Tîm Rheoli Canol Trefi

Os hoffech chi drafod cyfleoedd busnes yng Nghanol Tref Coed Duon, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Canol Trefi.

choose-the-high-street-cy.JPG

Cysylltwch â ni