Dewis Caerffili

A hithau'n dref fwyaf y Fwrdeistref Sirol, gyda'r gaer fwyaf ond un yn Ewrop, mae canol tref Caerffili yn arddangos ei hun fel cyrchfan gyda llawer i'w gynnig; dim ond wyth milltir o'r brifddinas ac ar garreg drws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. 

Mae tair gorsaf drenau leol (Caerffili, Aber, ac Eneu'r-glyn a Pharc Churchill) sy'n darparu gwasanaeth i Gaerdydd mewn dim ond 15 munud a Chasnewydd mewn 50 munud, a chysylltiadau ffyrdd sy'n cysylltu â'r M4, felly, mae Caerffili mewn lleoliad da ar gyfer ymwelwyr a chymudwyr. O'r orsaf, mae gweithredwyr bysiau yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ledled y Fwrdeistref Sirol a thu hwnt, ac mae nifer o feysydd parcio ar gael yn y dref.

Ewch i'n hadran drafnidiaeth a pharcio sy'n cynnwys gwybodaeth am fysiau a thacsis a manylion am y meysydd parcio sydd ar gael yng Caerffili.

Ar ddwy ochr Castell Caerffili mae'r stryd fawr, gan gynnwys Canolfan Siopa Cwrt y Castell, yn gymysgedd o fusnesau annibynnol a busnesau cadwyn sy'n meddiannu'r cymysgedd o adeiladau modern a hanesyddol sy'n adlewyrchu cymeriad y dref. A hithau mewn lleoliad canolog, mae'r dref yn elwa ar lyfrgell gwerth miliynau o bunnoedd, Canolfan Gymunedol y Twyn, a Neuadd y Gweithwyr Caerffili, sy'n llwyfannu perfformiadau difyr gan gynyrchiadau lleol a theithiol. Mae marchnadoedd bwyd, crefft a chrefftwyr poblogaidd yn cael eu cynnal yn rheolaidd ar hyd y stryd fawr ac mae gan y dref galendr bywiog o ddigwyddiadau, gwyliau a ffeiriau. Mae'r manylion am raglen ddigwyddiadau'r Cyngor ar gael ar wefan Croeso Caerffili.

Mae Castell Caerffili yn creu cefndir trawiadol i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y dref, ac mae buddsoddiad o £5 miliwn gan Cadw yn parhau i ddatblygu'r tirnod eiconig hwn. Mae tiroedd y castell, Parc Morgan Jones a Gerddi Dafydd Williams yn cynnig mannau hamdden yng nghanol y dref, ac ar y cyrion mae Mynydd Caerffili a Chomin Caerffili yn darparu golygfeydd godidog ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae'r dref yn falch o fod yn enillydd gwobr aur Cymru yn ei Blodau, ac mae £33 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerffili yn cael ei ddefnyddio i adeiladu canolfan les newydd o'r radd flaenaf. Bydd y cyfleuster newydd, a fydd yn cael ei adeiladu yn agos at gyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus allweddol ar bwys Parc Busnes Caerffili, yn dod yn ganolfan hamdden a lles flaenllaw ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan.

Mae cynlluniau cyffrous wedi'u datgelu ar gyfer datblygu marchnad newydd, brysur a fydd yn cynnwys unedau masnachol a manwerthu newydd, gofod dros dro a lleoliad digwyddiadau awyr agored.

Mae Caerffili yn dref smart. Lawrlwythwch yr ap ‘VZTA Smart Towns’ i archwilio Caerffili o'ch llaw a darganfod beth sydd ar gael yn y dref!

Ap Tref Glyfar

Mae Caerffili yn dref smart. Lawrlwythwch yr ap ‘VZTA Smart Towns’ i archwilio Caerffili yn eich llaw a darganfod beth sydd ar gael yn y dref! Siopa, gwybodaeth am fusnesau a chynnyrch, dod o hyd i'r anrheg berffaith neu le i fwyta, atyniadau i'w gweld a lleoedd i ymweld â nhw – mae ‘VZTA’ yn dod â Caerffili at ei gilydd, ac yn ei gwneud hi'n gyflym a hawdd i chi ei darganfod a'i harchwilio.

Lawrlwytho VZTA

Tîm Rheoli Canol Trefi

Os hoffech chi drafod cyfleoedd busnes yng Nghanol Tref Caerffili, cysylltwch â'r Tîm Rheoli Canol Trefi.

choose-the-high-street-cy.JPG

Cysylltwch â ni