Gwefannau CBSC Eraill

  • Ymgysylltu 50+Ymgysylltu 50+

    Bwriad y wefan yw darparu offer a gwybodaeth gall gael eu defnyddio gan bobl hŷn sydd eisiau cael eu lleisiau wedi eu clywed AC HEFYD gan y gweithwyr proffesiynol sydd eisiau ymgysylltu yn fwy effeithiol â nhw.

  • Syniad Mawr BargodSyniad Mawr Bargod

    Mae canol tref Bargod yn wynebu dyfodol cyffrous oherwydd yr ystod o newidiadau dramatig a phell-gyrhaedd sy’n digwydd ar hyn o bryd yn yr ardal. Am y newyddion diweddaraf ar y datblygiad, gan gynnwys cyfleoedd buddsoddi, Cynllun Adfywio Bargod Mwyaf a chyfleusterau siopa a fydd yn ymweld â gwefan Syniad Mawr Bargod.

  • Y Caws MawrY Caws Mawr

    Gŵyl o ddiddanwyr stryd, gwersylloedd hanes byw, cerddoriaeth, dawns, ffair hwyl draddodiadol, dawnsio gwerin, hebogyddiaeth, bwyta tân, clerwyr, trwbadwriaid a llawer mwy. Fe wnaeth teuluoedd o ar draws y wlad dyrru i Gaerffili i brofi’r rhaglen am ddim yn llawn hwyl o weithgareddau ac adloniant.

  • Sefydliad y Glowyr Coed DuonSefydliad y Glowyr Coed Duon

    Mae Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn cyflwyno amrywiaeth o ddigwyddiadau celfyddydau ac adloniant gan gynnwys enwau cartref enwog o’r byd cerddoriaeth ac adloniant ysgafn. Rydym hefyd yn rhoi’r cyfle i chi brofi’r theatr, dawnsio a chwmnïau opera ar eich steepen ddrws yn ogystal â chefnogi perfformiadau sy’n cael ei llwyfannu gan sefydliadau lleol a llawer mwy!

  • Blaenae Gwent a Chaerffili Integreiddio Gwasanaethau CymdeithasolBlaenae Gwent a Chaerffili Integreiddio Gwasanaethau Cymdeithasol

    Mae Cynghorau Blaenau Gwent a Caerffili yn arwain y ffordd yng Nghymru trwy weithio ynghyd i greu Cyfadran Gwasanaethau Cymdeithasol integredig i drigolion Blaenau Gwent a Bwrdeistref Sirol Caerffili.

  • Porthol Busnes CaerffiliPorthol Busnes Caerffili

    Cyfleuster sydd wedi ei ddarparu gan Uned Datblygu Economaidd y Cyngor yw Porthol Busnes Caerffili a ble chewch gymorth ar sut i ddod o hyd i fusnesau, eiddo a gwybodaeth annibynnol o fewn CBSC

  • Bwrdd Diogelu Plant CaerffiliBwrdd Diogelu Plant Caerffili

    Mae diogelu plant a hyrwyddo eu lles yn gyfrifoldeb pawb. Mae’r wefan hon yn darparu gwybodaeth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, pobl broffesiynol ac aelodau’r gymuned am strwythur, bwriad a gwaith y Bwrdd.

  • Nadolig yng NghaerffiliNadolig yng Nghaerffili

    Croeso i wefan Nadolig Bwrdeistref Sirol Caerffili - tudalennau o ddigwyddiadau cyffrous, gwybodaeth ddefnyddiol a threfniadau gwyliau cyfleusterau’r cyngor, gan gynnwys canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, a hefyd pryd bydd eich casgliadau gwastraff yn cael eu cynnal dros gyfnod y Nadolig

  • Y CroniclY Cronicl

    Archwilio a darganfod hanes trwy’r oes o Oes y Cerrig hyd at heddiw wrth i chi gymryd taith fyth gofiadwy trwy hanes y fwrdeistref sirol. Profwch fywyd yr oes a fu fel y’u cipiwyd ar gamera ac mewn chwedlau a ddywedwyd gan bobl a oedd yn byw yn ystod y digwyddiadau a ffurfiodd ein bywydau.

  • Coed Bryn OerCoed Bryn Oer

    Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi derbyn arian gan y prosiect Plant!, sy'n fenter gan Lywodraeth Cymru i blannu coeden ar gyfer pob plentyn sy'n cael eu geni neu eu mabwysiadu yng Nghymru o 1 Ionawr 2008 i helpu creu coedwig Genedlaethol Gymreig o goed brodorol mewn nifer o safleoedd o amgylch Cymru.

  • Cynllunio CymunedolCynllunio Cymunedol

    Mae’r Strategaeth Gymunedol wedi bod mewn lle ers 2004 ac yn gosod gweledigaeth ar gyfer bwrdeistref sirol well trwy wella ansawdd bywyd ar gyfer pobl leol. Mae’r Strategaeth Gymunedol yn cydnabod fod Cynllunio Cymunedol am bobl a sefydliadau sy’n gweithio gyda’i gilydd i wella darpariaeth gwasanaeth ac i ddod â gwelliannau ansawdd bywyd parhaus ar gyfer dinasyddion lleol

  • Coetiroedd CymunedolCoetiroedd Cymunedol

    Mae dros dri chwarter o'r fwrdeistref sirol yn gefn gwlad. Mae gwaith y Gwasanaeth Cefn Gwlad a Thirwedd yn cynnwys gwelliannau tirwedd, gan greu cynefinoedd newydd, gan sicrhau bod coed yn ddiogel, monitro ac amddiffyn bywyd gwyllt, gwella mynediad i bawb, a gweithio'n agos gyda ffermwyr a thirfeddianwyr a rheoli 5 parciau gwledig.

  • Cefn gwladCefn gwlad

    Mae dros dri chwarter o’r fwrdeistref sirol yn gefn gwlad. Mae gwaith y Gwasanaeth Cefn Gwlad a Thirwedd yn cynnwys gwelliannau tirwedd, creu cynefinoedd newydd, sicrhau bod coed yn ddiogel, monitro ac amddiffyn bywyd gwallt, gwella mynediad i bawb, gweithio’n gyda ffermwyr a pherchenogion tir a rheoli 5 parc gwledig.

  • Cwm a MynyddCwm a Mynydd

    Caerffili Cwm a Mynydd yw’r enw ar gyfer y Rhaglen Datblygu Wledig yng Nghaerffili. Dyma’r tro cyntaf y mae Caerffili wedi gallu cael mynediad at y cyllid Ewropeaidd hwn.

  • Coedwig CwmcarnCoedwig Cwmcarn

    Os ydych eisiau ddiwrnod llawn antur neu daith gerdded hamddenol gyda’r teulu, mae Coedwig Cwmcarn yn cynnig gweithgareddau amrywiol ar gyfer pawb. Pam na wnewch chi yrru a thrin y teulu i ddiwrnod hwyl unigryw allan ar hyd Ffordd Goedwig Cwmcarn sydd yn saith milltir syfrdanol? Archwiliwch mewn car, ar feic ac ar droed hyfrydwch y cwm coediog cuddiedig hwn, sy’n gorffen gyda chyfres o olygfeydd syfrdanol.

  • Blynyddoedd CynnarBlynyddoedd Cynnar

    Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar yn gweithio er mwyn sicrhau fod mannau gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel ar gyfer teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Rydym hefyd yn gyfrifol am ddatblygiad Addysg Blynyddoedd Cynnar mewn ysgolion, cylchoedd chwarae, meithrinfeydd preifat neu warchodwyr plant mewn ysgolion Saesneg a Chymraeg

  • Gwasanaeth Gwybodaeth i DeuluoeddGwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

    Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu cyngor a gwybodaeth am ddim ar ystod eang o opsiynau gofal plant a gweithgareddau i blant 0-10 oed, eu teuluoedd a’u gofalyddion. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau allan o’r ysgol, cylchoedd chwarae a grwpiau rhieni a thwdlod.

  • Gŵyl FlodauGŵyl Flodau

    Gan ddechrau yn 2006, mae 'r Ŵyl Flodau wedi datblygu i fod yn un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd blynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae nawr yn ddyddiad pwysig yn y calendr ar gyfer canol y dref, ei eglwysi a chymdeithasau.

  • Her IechydHer Iechyd

    Her Iechyd Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r dull lleol i Her Iechyd Cymru, sy'n gosod her i bawb yng Nghymru i wneud newidiadau bach a rhad i'w arferion dyddiol gan arwain at ddull byw iachach. Bydd y gwefan yn eich darparu â chyngor a gwybodaeth o dan ein themâu blaenoriaethol allweddol, fel y gallwch weld beth allwn ni ei wneud ar eich cyfer chi i wella iechyd eich hunan ac iechyd eich teulu a'ch ffrindiau.

  • Dull byw HamddenDull byw Hamdden

    Beth bynnag yw eich chwaraeon neu anghenion ffitrwydd, byddwch yn darganfod yr hyn sydd angen arnoch i arwain dull byw iachus yn un o ganolfannau hamdden bwrdeistref sirol Caerffili. Mae ein gwasanaethau wedi eu lledaenu dros 10 safle a thrwy gymryd mantais o’r ystod ffantastig o aelodaeth sydd ar gael gallwch ddefnyddio’r cyfleusterau ar bob safle.

  • Maenordy Llancaiach FawrMaenordy Llancaiach Fawr

    Ymwelwch â Maenordy Llancaiach Fawr a gweld a chlywed sydd roedd pobl gyffredin yn byw, yr effaith o ryfel a’r ofergoelion a llên gwerin a oedd yn gymaint o ran bwysig o fywyd yn 1645. Mae’r Meistr a’u deulu fel arfer i ffwrdd o’u cartref ond byddent yn gadael y gweision ar ôl i’ch croesawu a’ch arwain o amgylch y gerddi ac un o’r tai ysbryd mwyaf adnabyddus Prydain.

  • Cylchoedd-a-DolenniCylchoedd-a-Dolenni

    Mae’r cynllun arloesol yn caniatáu pobl sy’n defnyddio’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i gael mynediad haws o’r cyfleusterau yn ein trefi a phentrefi. Mae hefyd yn agor y cefn gwlad ysblennydd ac atyniadau twristiaeth sy’n gorwedd ar hyd y llwybr beic.

  • Fy Nglwb CoginioFy Nglwb Coginio

    Croeso i fy Nghlwb Coginio. Mae gan y safle hwn lawer o wybodaeth i’ch helpu i goginio gyda’ch plentyn. Byddwch yn dod o hyd i ryseitiau, cystadlaethau, awgrymiadau, cyngor a llawer, llawer mwy. Bydd y rhain yn eich helpu chi a’ch plentyn i ddysgu mwy a gwella eich sgiliau coginio

  • Fy Nghinio YsgolFy Nghinio Ysgol

    Gwefan addysgiadol ac yn llawn hwyl sy’n bwriadu addysgu plant a rhieni am fuddion bwyta diet iachus ac annog gwylwyr i ddarganfod mwy am brydau bwyd ysgol cyngor bwrdeistref sirol Caerffili a’i hymrwymiad at fwyta’n iach. Mae’r gwefan 'Fy Nghinio Ysgol’ wedi ennill Gwobr marchnata yn flaenorol mawreddog gan Gymdeithas Arlwyo’r Awdurdod Lleol (LACA).

  • Parc Busnes OakdaleParc Busnes Oakdale

    Mae’r adfywiad a datblygiad o’r safle Pwll Glo Oakdale blaenorol yn brif enghraifft o ddatblygiad sy’n amgylchynu gweledigaeth strategol hir dymor gyda gweithio mewn partneriaeth i gael mynediad at gyllid wrth ystod o ffynonellau yn cynnwys Yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r datblygiad wedi, ac yn parhau i, fod yn sensitif i anghenion y gymuned a’r amgylchedd.

  • Bywyd ParcBywyd Parc

    Gall y "parc" fod yn unrhyw beth o fan chwarae i blant ar ddiwedd y stryd, hyd at ein prif barciau sy’n cynnwys popeth o welyau blodau i gae pêl-droed. Gallwch ddefnyddio eich parc lleol i fynd i gael hwyl, mwynhau picnic gyda’r teulu neu fynd am dro yn yr awyr iach a gwylio’r byd mynd heibio. Os yw’n wyrdd ac yn tyfu neu os ydych chi neu eich plant yn ei ddefnyddio ar gyfer chwarae neu adloniant, mae’n siŵr y fod yn rhywbeth i wneud â’r gwasanaeth Parciau.

  • Prosiect GwyrddProsiect Gwyrdd

    Partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Bro Morgannwg yw Prosiect Gwyrdd. Mae cyfanswm gwastraff bwrdeistrefol cyfunol y pum awdurdod yn 40% o gyfanswm gwastraff bwrdeistrefol Cymru. Mae Prosiect gwyrdd yn ymrwymedig i edrych am yr atebion ymarferol, amgylchedd orau a chost effeithlon ar wastraff ar ôl i ailgylchu a chompostio cyrraedd eu huchafbwynt ym mhob ardal

  • Bwrdeistref Sirol Caerffili SaffachBwrdeistref Sirol Caerffili Saffach

    Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerffili Saffach yn bartneriaeth statudol ar y cyd, rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Heddlu Gwent, Awdurdod Heddlu Gwent, Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Caerffili ac Awdurdod Tân ac Achub Lleol De Cymru. Mae’r bartneriaeth yn gweithio gyda phartneriaid lleol eraill i leihau lefelau o drosedd ac anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau ac ofn trosedd yn yr ardal leol.

  • Cerdyn SmartCerdyn Smart

    Cael mynediad i’ch llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden wrth ddefnyddio cerdyn. Cofrestrwch ar gyfer cerdyn SMART Caerffili newydd i gael mynediad cyflymach a haws at gyfleusterau yn eich canolfan hamdden leol a’ch llyfrgell.

  • Datblygu ChwaraeonDatblygu Chwaraeon

    Chwaraeon ym mwrdeistref sirol Caerffili yn ffynnu a’r cyfle i chi gymryd rhan, gwirfoddoli, hyfforddi neu wylio erioed wedi bod mor wych. Gwnewch y tîm Datblygu Chwaraeon eich man cyswllt cyntaf ar gyfer eich anghenion chwaraeon. Gallwn eich helpu darganfod sut i gymryd rhan mewn chwaraeon, dod yn hyfforddwr/wraig, lleoli ffynonellau o gyllid chwaraeon a darganfod mwy am chwaraeon anabledd.

  • Cefnogi PoblCefnogi Pobl

    Ei nod yw nodi, darparu ac ariannu gwasanaethau cefnogi o safon ym maes tai i bobl agored i niwed er mwyn caniatáu iddynt fyw’n annibynnol yn eu cartrefi cyn hired ag y dymunant neu y gallant wneud hynny. Partneriaeth sy’n ategu’r gwasanaethau gofal sydd eisoes yn bodoli yw Cefnogi Pobl, rhwng y cyngor, pobl y gallai fod arnynt angen y gwasanaeth a’r asiantaethau hynny sy’n darparu ac yn cefnogi’r rhaglen.

  • Cynaliadwy Bwrdeistref Sirol CaerffiliCynaliadwy Bwrdeistref Sirol Caerffili

    Bwriad datblygu cynaliadwy yw galluogi pawb i gwrdd â’u hanghenion sylfaenol a mwynhau ansawdd bywyd gwell heb gyfaddawdu ansawdd bywyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ewch i wefan Cynaliadwy Bwrdeistref Sirol Caerffili am awgrymiadau ar sut y gallwch fod yn fwy cynaliadwy. Mae’r safle’n cynnwys holiadur ar-lein i’ch helpu darganfod pa mor wyrdd ydych chi wir. Gall ymwelwyr hefyd addo gwneud gwahaniaeth a chyflawni dyfodol mwy cynaliadwy

  • GefeillioGefeillio

    Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ei gefeillio â Ludwigsburg yn yr Almaen a Pisek yn y Weriniaeth Tsiec. Edrychwch ar y wefan i ddarganfod mwy o wybodaeth am ein gefeilldrefi a’r prosiect E-Gefeillio Ysgolion rhwng Ysgol Gyfun Heolddu ac Ysgol Gramadeg Friedrich Schiller, Ludwigsburg

  • Y Tŷ WeindioY Tŷ Weindio

    Y Tŷ Weindio yw’r amgueddfa ar gyfer Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y tu fewn i’r adeilad trawiadol newydd hwn gallwch ddatguddio hanes cudd Bwrdeistref Sirol Caerffili, archwilio ein harddangosfeydd diweddaraf, ymchwilio hanes eich teulu, cymryd rhan mewn un o’n nifer o ddigwyddiadau, darganfod injan weindio Fictoraidd, bwyta, yfed a siopa!

  • 'You Go 4 It''You Go 4 It'

    Pwrpas ‘Going 4 it’ yw bod y gorau y gallwch chi fod ym mhob peth rydych yn ei wneud. Dim ots os ydyw yn yr ysgol, yn y cartref, gyda ffrindiau, mewn chwaraeon neu hyd yn oed edrych ein gorau, rydym i gyd am wneud beth y gallwn ni i gyflawni ein nodau. Ar y safle hwn byddwch yn dod o hyd i gyngor gwych am fwyd, ymarfer corff ac astudio gan y bobl hynny sy’n gwybod am y pethau hyn. Rydym wedi cysylltu â Chymdeithas Olympaidd Prydain fel y gallwch chi gael y cyngor gorau oddi wrth athletwyr elitaidd sy’n gweithio tuag at gystadlu ar y lefel uchaf dros y blynyddoedd nesaf

  • Gwefan IeuenctidGwefan Ieuenctid

    Croeso i wefan cyngor bwrdeistref sirol Caerffili i chi, pobl ifanc o’r fwrdeistref sirol. Darganfyddwch Beth sydd ymlaen, y newyddion diweddaraf, eich hawliau, ein gwasanaeth negeseuon testun, gwybodaeth y fforwm ieuenctid a llawer, llawer mwy. Cofiwch – mae’r wefan hon i CHI, os oes gennych unrhyw syniadau neu awgrymiadau am beth y gallem gynnwys neu wneud i wella’r wefan rhowch wybod i ni.