CCBC for print mediaSupporting people logo for print media

Amdanom Ni

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi sefydlu tîm bach Cefnogi Pobl sy'n gyfrifol am weinyddu'r Grant Cefnogi Pobl ac am adolygu'r holl gynlluniau sy'n derbyn arian o'r grant.

Rydym yn cynhyrchu'r Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl, blynyddol, yn comisiynu gwasanaethau newydd Cefnogi Pobl ac yn gweinyddu cynllun cymorth fel bo'r angen sy'n cynnwys 15 asiantaeth â chyllideb flynyddol o £1,400,000. Y cynllun hwn yw un o'r mwyaf yng Nghymru.

Mae cyfanswm y gyllideb ar gyfer gwasanaethau Cefnogi Pobl yn y fwrdeistref sirol yn fwy na £6 miliwn, sy'n cynnwys arian y Grant Refeniw Cefnogi Pobl a delir yn uniongyrchol i ddarparwyr achrededig.

Pam Cefnogi Pobl?

Nod rhaglen Cefnogi Pobl yw galluogi pobl i barhau i fyw'n annibynnol, gan osgoi gofal mewn sefydliad megis ysbyty neu garchar neu, mewn amgylchiadau eithafol, bywyd ar y stryd. Mae hefyd
â'r nod o helpu pobl sydd mewn gofal sefydliadol i symud i gartref mwy annibynnol a sefydlog
yn y gymuned.

Daeth y rhaglen i rym ym mis Ebrill 2003. Rhesymolodd yr arian oedd yn cael ei ddosbarthu mewn modd ad hoc gynt trwy Fudd-dâl Tai, yn ogystal â chymryd lle llawer o ffyrdd cymhleth o gael arian.

Cymerodd le'r Cynllun Budd-dâl Tai Trosiannol (Transitional Housing Benefit Scheme neu THB). Dyma oedd y prif ddull o hawlio cymorth yn ymwneud â thai.

Beth yw Cymorth sy'n ymwneud â Thai?

Nid yw Rhaglen Cefnogi Pobl yn cynnwys yr holl wasanaethau y gallai pobl eu hystyried yn wasanaethau â chymorth. Mae'n canolbwyntio ar wasanaethau sy'n ymwneud â sicrhau y gall pobl ymdopi â byw'n ddiogel ac yn sicr yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r cymorth wedi ei drefnu i gydweddu ag anghenion unigol ac mae'n cynnwys:-

  • Cynnal diogelwch yr annedd (cymorth 'sy'n cynorthwyo'r hawliwr i gynnal diogelwch yr annedd y mae'n ei feddiannu fel ei breswylfan')
  • Cynnal diogelwch yr adeilad (cymorth 'sy'n cynorthwyo'r hawliwr i gynnal diogelwch yr annedd y mae'n ei feddiannu fel ei breswylfan')
  • Cydymffurfio â'r denantiaeth (cymorth 'sydd wedi ei anelu at gynorthwyo'r hawliwr i gydymffurfio â'r telerau hynny yn ei denantiaeth sy'n ymwneud â: Niwsans, cyfrifoldeb am rent a chynnal yr annedd mewn cyflwr priodol am y cyfnod y rhoddir y denantiaeth ar ei gyfer
  • Darparu cynghori cyffredinol neu gymorth arall, sy'n cynorthwyo'r hawliwr i gysylltu ag unigolion neu gyrff proffesiynol neu gyrff eraill sydd â diddordeb mewn sicrhau lles yr hawliwr.
  • Helpu pobl fregus i reoli eu cyllideb ac i gael budd-daliadau lles fel nad ydynt yn crynhoi rhenti neu daliadau morgais dyledus a cholli eu cartrefi..

Nid yw'r rhestr uchod yn hollgynhwysfawr, ond mae'n dangos y math o wasanaethau cymorth yr ystyrir eu bod yn ymwneud â thai. Fodd bynnag, nid yw'r Rhaglen yn cynnwys gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol megis prydau cymunedol a gofal personol megis ymolchi, y ty bach, ac ati; cysylltwch â Desg Dyletswydd y gwasanaethau cymdeithasol ar (01633) 600050. Nid yw ychwaith yn cynnwys dyletswyddau rheoli a chynnal a chadw tai; cysylltwch â'ch landlord.