

Gall unrhyw un dros 16 oed sydd angen cymorth yn ymwneud â thai wneud cais, naill ai am gymorth sy'n parhau neu dim ond ar gyfer y tymor byr. Enghreifftiau o'r bobl yr ydym wedi eu helpu eisoes yw:-
Rydym yn darparu amrywiaeth fawr o gymorth o'r mathau hyn o bobl gan gynnwys:
Os ydych yn teimlo y byddech yn cael budd ganunrhyw un o’r gwasanaethau uchod cysylltwch â ni neu llwythwchffurflen gyfeirio i lawr. (pdf 24k)
DS: Mae'r Ffurflen Gyfeirio mewn ffurf PDF, efallai bydd rhaid i chi ddadlwytho 'Adobe Acrobat Reader' i'w ddarllen. Cliciwch yma i ddadlwytho Acrobat Reader
Mae nifer o’n gwasanaethau am ddim. Mae’r rhain yn cynnwys byw â chymorth i bobl ifanc, llochesi i fenywod, hosteli a rhai lletyau â chymorth.
Codir tâl am holl lety gwarchod y cyngor a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y gwasanaethlarymau cymunedol a’r gwasanaethglanhauyn y cartref a ddarperir o dan y cynlluncymorthfel bo’r angen. Gallwch lenwiffurflen coditâl tecach neu ffurflenasesiad ariannol os ydych yn teimlona allwch dalu cost lawn y gwasanaeth.
Os ydych yn cael budd-daliadau tai ar hyn o bryd ac yn gymwys i gael gwasanaeth a ariennir gan Gefnogi Pobl byddwch yn awtomatig yn cael y grant cymhorthdal llawn i dalu costau’r cymorth yr ydych yn ei gael. Os ydych yn credu bod hyn yn berthnasol i chi ond rydych yn talu am eich gwasanaethau ar hyn o bryd cysylltwch â ni.
Os nad ydych yn cael budd-daliadau tai ac rydychyn gymwys i gael gwasanaeth a ariennir gan GefnogiPobl gallwch lenwi ffurflenasesiad ariannol, Cais â phrawfmodd yw’r asesiad hwn ac mae’ngallucyfrifo’r swm y mae’r llywodraethyn credu y gallwch fforddio ei dalu tuagat eichgwasanaeth.
Nac oes. Os ydych eisoes wedi llenwi ffurflen asesiad ariannol oherwydd eich bod yn cael gofal yn y cartref nid oes angen i chi lenwi ffurflen arall. Ni fydd rhai pobl ond yn gorfod talu un tâl, a fydd yn talu am Ofal yn y Cartref a hefyd Cefnogi Pobl.
Os yw eich amgylchiadau’n newid yn fawr, er enghraifft oherwydd colli partner neu ysgariad, neu godiadau neu ostyngiadau mawr yn eich incwm, byddwch yn symud i gynllun codi tâl newydd. Os yw’r newid i’ch amgylchiadau’n un bach ni fydd eich tâl yn newid. Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy.
Nac ydyw. Ar hyn o bryd defnyddir system codi tâl tecach ym mwrdeistref sirol Caerffili i gyfrifo'r swm cywir y bydd angen i chi ei dalu tuag at y gwasanaeth (os oes rhaid i chi dalu o gwbl).
Adran Ariannol Gwasanaethau Cymdeithasol cyngor bwrdeistref sirol Caerffili fydd yn gwneud y prawf modd.