

Bob blwyddyn mae'n rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyflwyno Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dyma'r cynllun cyntaf o'r fath.
Mae'r cynllun yn rhoi gwybodaeth am gyflenwad presennol cymorth sy'n ymwneud â llety ym mwrdeistref sirol Caerffili ac mae hefyd yn nodi anghenion yn y dyfodol i bobl fregus. Mae'r cynllun yn gweithredu fel dogfen geisio am arian ychwanegol i'n galluogi i gyflwyno gwasanaethau newydd i ddiwallu anghenion yn y dyfodol neu i ariannu ail-wampio'r gwasanaethau presennol i ymdopi ag anghenion sy'n newid.
Mae'r Cynllun Gweithredol Cefnogi Pobl (CGCP) yn gysylltiedig â'r nodau ac amcanion ar gyfer llety â chymorth a geir yn y Strategaeth Digartrefedd 5-mlynedd a pholisïau a strategaethau cynllunio lleol a rhanbarthol eraill.
Amcanion y CGCP yw: