CCBC for print mediaSupporting people logo for print media

Grantiau

Trosglwyddwyd yr arian a hawliwyd trwy’r Cynllun Budd-dâl Tai Trosiannol a grant eraill seiliedig ar lety i’r Rhaglen Cefnogi Pobl ar 1 Ebrill 2003. Cyflwynwyd dau fath o grant cefnogi pobl:

1. Grant Refeniw Cefnogi Pobl (neu'r SPRG)

Fel arfer telir y grant hwn yn uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau sy'n ymwneud â Chefnogi Pobl a bydd yn ariannu'r math canlynol o gynlluniau:

  • Cynlluniau cymorth fel bo angen, gan gynnwys grwpiau cleientiaid megis pobl ddigartref a phobl ifanc.
  • Hosteli i bobl ddigartref.
  • Llochesi i fenywod sy'n ffoi rhag cam-drin yn y cartref..
  • Byw â chymorth i bobl ifanc.

2. Grant Cefnogi Pobl (neu'r SPG)

Caiff y grant hwn ei dalu'n uniongyrchol i'r cyngor a bydd yn talu am gostau cymorth hysbys cynlluniau llety gwarchod; y gwasanaeth larymau cymunedol a chynlluniau gofal cymunedol. Gall cyngor bwrdeistref sirol Caerffili neu ddarparwr arall e.e. Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (RSL) ddarparu'r cymorth hwn.

Dyma'r gwasanaethau y mae'r Grant Cefnogi Pobl yn talu amdanynt: -

  • Llety gwarchod yr awdurdod lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (RSL)
  • Gwasanaethau larymau cymunedol yr awdurdod lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.
  • Byw â chymorth i bobl ag anableddau dysgu.
  • Byw â chymorth i bobl â phroblemau iechyd meddwl.
  • Cynlluniau cymorth fel bo'r angen i bobl ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl a phobl hyn.

Bydd yr holl gynlluniau a ariennir gan grantiau Cefnogi Pobl yn destun adolygiad cychwynnol a pharhaus o'r gwasanaethau a ddarperir. Bydd yr adolygiad yn edrych ar yr angen am y gwasanaeth a hefyd yn sicrhau bod y cymorth a ddarperir o ansawdd da.