

Mae'r holl brosiectau a chontractau a ariennir gan Gefnogi Pobl yn cael eu hadolygu a'u monitro'n rheolaidd gan ddefnyddio'r Fframwaith Asesu Ansawdd i sicrhau eu bod yn cyrraedd ein safonau gofynnol.
I ddechrau, rydym yn disgwyl i asiantaethau wneud hunan-asesiad o'u gwasanaeth ar sail pedair safon graidd. Y rhain yw Iechyd a Diogelwch, Amddiffyniad rhag Cam-drin, Amrywiaeth a Chynhwysiant, ac Asesu Anghenion a Rheoli Cyflenwad. Mae dwy ar bymtheg o safonau i gyd, 13 ohonynt yn safonau ategol a chânt eu gweithredu yn ddiweddarach.
I ddilysu'r wybodaeth a roddir yn yr hunan-asesiadau hyn, bydd gwiriadau neu ymweliadau dilysu â'r darparwr a'r cleientiaid er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd da yn cael ei ddarparu. Lle nodir problemau eu nodi, caiff cynlluniau gweithredu eu llunio er mwyn codi safonau'r gwasanaeth.