22.05.08
Mae disgyblion o ysgolion ledled bwrdeistref sirol Caerffili wedi bod yn gweithio’n galed i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint o’u gwastraff ag sy’n bosibl.
Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Compost, bu Tîm Lleihau Gwastraff y cyngor yn ymweld ag ysgolion i addysgu’r disgyblion am bwysigrwydd compostio fel ffordd o sicrhau bod llai o wastraff yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi.
Mae eco-bwyllgorau ysgolion yn cymryd cyfrifoldeb am gasglu llysiau a ffrwythau sy’n weddill, ynghyd â gwastraff o erddi eu hysgolion, i’w rhoi yn eu biniau compost. Cynhaliodd Ysgol Plant Iau Bedwas gystadleuaeth i wneud dyluniad ar thema ffrwythau i’w bin compost!
Bu ysgolion hefyd yn brwydro am deitl Pencampwyr Compostio Caerffili trwy dynnu ffotograffau o’u gweithgareddau compostio. Bydd yr ysgolion buddugol - Ysgol Gynradd Ynysddu (gwobr gyntaf), Ysgol Plant Iau Bedwas (ail wobr) ac Ysgol Gynradd Cwmfelin-fach (trydedd wobr) - yn cael nwyddau compostio ac offer garddio i’w defnyddio yn eu gerddi.
Dywedodd aelod y cabinet dros yr amgylchedd, Cyng. Lyn Ackerman, “Hoffwn longyfarch yr holl ysgolion a gymerodd ran am eu hymdrechion gwych. Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau ein bod yn anfon llai o sbwriel i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn. Compostio gwastraff organig o’r gegin a’r ardd yw un o’r pethau symlaf a mwyaf effeithiol y gall pobl ei wneud. Mae ymchwil yn awgrymu pe bai pawb yn y DU yn dechrau compostio yfory, byddai hyn yn helpu i gael gwared ar filiynau o dunelli o wastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn.”
“Rydym yn gobeithio, o weld pa mor ymroddedig yw’r disgyblion a’r athrawon i gompostio, y bydd mwy a mwy o drigolion Caerffili’n dilyn yr esiampl ragorol y maen nhw’n ei gosod,” ychwanegodd.
Mae biniau compost ar gael i drigolion bwrdeistref sirol Caerffili am bris cymorthdaledig, sef £10. I brynu bin compost, ewch i un o’n swyddfeydd arian neu edrychwch yn y wasg leol am fanylion diwrnodau gwerthu. I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 01443 866533.
|