Amdanom ni

Yn ogystal â chynnig cyngor i rieni, gofalyddion, neiniau a theidiau, gweithwyr proffesiynol a chyflogwyr ar amryw o weithgareddau i blant a gwasanaethau gofal plant gallwn eich tywys yn y cyfeiriad cywir os ydych yn chwilio am grwpiau cymorth lleol i rieni plant bach.

Gallwn hefyd roi gwybod i chi am wasanaethau sy'n darparu cymorth i rieni a gofalyddion plant a phobl ifanc, sydd ag anghenion arbennig, anawsterau ymddygiad neu emosiynol, neu a allai fod â'r rhain.

Bydd ein gwasanaeth yn ehangu yn fuan i gynnwys gwybodaeth am glybiau, clybiau ieuenctid, chwaraeon a gweithgareddau hamdden, Brownies, Brigâd y Bechgyn a llawer iawn mwy!

Gall darparwyr gwasanaethau gofal plant gofrestru a chynnwys gwybodaeth ar gronfa ddata'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am ddim a chael gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddi. Cysylltwch â ni i gofrestru.

Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn:

  • Darparu cymorth ac arweiniad i helpu ymholwyr i nodi eu gofynion.
  • Esbonio'r mathau gwahanol o ofal plant sydd ar gael o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili.
  • Diduedd ac yn wrthrychol, gan gynnig arweiniad ar sut i ddewis y ddarpariaeth gofal plant, sy'n cyd-fynd orau ag anghenion yr ymholwr a'r plant.
  • Ymrwymedig i barchu cyfrinachedd rhieni, gofalyddion a darparwyr gofal plant.
  • Gwneud yn siwr bod gan rieni, gofalyddion a darparwyr yr hawl i benderfynu pa fanylion a gwybodaeth y byddant yn dewis eu rhannu â ni.

Rydym yn darparu help, cyngor a chymorth ar gyfer:

  • Darparwyr gofal plant a gweithwyr chwarae y blynyddoedd cynnar.
  • Gwybodaeth ac arwyddion ar yrfaoedd ym maes gofal plant.
  • Trefnu, cofrestru a datblygu gofal plant y tu allan i oriau ysgol, gwarchod plant a gofal cyn ysgol.
  • Cyfleoedd hyfforddi a chyngor ar gynnal gofal plant safonol, fforddiadwy a hygyrch.