Ydych chi'n ystyried gyrfa ym maes Gofal Plant neu redeg eich meithrinfa eich hun? Mae llawer o gyfleoedd ar gael ar eich cyfer gan gynnwys grantiau a nawdd. Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol eich tywys yn y cyfeiriad cywir a rhoi cyngor i chi ar y ddarpariaeth sydd ar gael eisoes yn yr ardal. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am yrfaoedd ym maes gofal plant.
Mae Gwarchodwyr Plant Cofrestredig yn gweithio yn eu cartrefi eu hunain, gan ddarparu gofal a chyfleoedd dysgu i blant. Mae gan PDBCaGP Caerffili becyn cychwyn gan gynnwys aelodaeth o'r Gymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant (neu'r NCMA), yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, yn ogystal â help tuag at hyfforddiant ac offer.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
NCMA - (029) 2034 2336
Mae Meithrinfeydd dydd ar agor yn ystod yr wythnos drwy gydol y flwyddyn, felly mae digon o gyfleoedd i chi weithio'n rhan amser neu yn ystod y tymor i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau eraill. Gyda mwy o brofiad gallwch symud i rôl oruchwylio neu reoli. Mae dewis eang o hyfforddiant a chymwysterau ar gael ar eich cyfer.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
NDNA - 08707 744 244
Neu eich coleg lleol:
Coleg Cross Keys - (01633) 333456
Coleg Rhymni - (01443) 846400
Coleg Ystrad - (01443) 816888
Gall Chwarae Teg roi cyngor i chi ar nawdd a hyfforddiant. Gallant eich helpu i ddatblygu cynllun gweithredu a darparu arweiniad ar gydbwysedd-gwaith-bywyd, helpu gyda chostau gofal plant a darparu trafodaethau unigol a chyrsiau am ddim.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Chwarae Teg - 0800 0522 255
Mae Cymdeithas Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol Cymru a MYM (Mudiad Ysgolion Meithrin) yn cynnig amryw o gyrsiau, gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy'n ystyried gweithio mewn neu sefydlu grwp chwarae neu Gylch Ti a Fi.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
WPPA - (01686) 624573
MYM - (029) 2043 6800
Gall y clybiau hyn fod yn hwyl mewn amgylchedd diogel, bodlon yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Clybiau Plant Cymru Kid's Clubs
Trwy gyfrwng y Gymraeg - (029) 2074 1000
Trwy gyfrwng y Saesneg - (01685) 843359