Croeso

Ydych chi'n chwilio am wybodaeth, help neu gyngor ar weithgareddau hamdden i blant neu ofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, yna rydych wedi dod i'r lle cywir.

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGID) yn darparu cyngor a gwybodaeth am ddim ar amrywiaeth eang o opsiynau gofal plant a gweithgareddau i blant 0-14 oed, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am feithrinfeydd, gwarchodwyr, clybiau y tu allan i oriau ysgol, grwpiau chwarae a chylchoedd ti a fi.

Rydym hefyd yn darparu help a chyngor ar dalu am ofal plant a gweithio ym maes gofal plant.

Os ydych yn darparu gwasanaeth neu weithgaredd ar gyfer eich plant gallwch gofrestru eich gwasanaeth gyda ni am ddim.