Il ddarparwyr
Mae dewis y gofal dydd gorau i gyd-fynd ag anghenion eich teulu yn benderfyniad anodd. Mae'r wybodaeth isod yn amlygu'r pwyntiau y dylech eu hystyried ac yn awgrymu rhai cwestiynau yr hoffech eu gofyn i ddarparwr cofrestredig.
Gofynion Cyfreithiol
- Ydych chi wedi cofrestru gyda'r Arolygiaeth Safonau Gofal yng Nghymru (CSIW)?
- Alla i weld eich tystysgrif?
- A oes gennych yswiriant atebolrwydd cyhoeddus?
- Alla i weld y dystysgrif?
- Beth oedd dyddiad eich adolygiad blynyddol diwethaf gan y CSIW?
Rheoli ymddygiad
- Sut y caiff fy mhlentyn ei ddisgyblu?
Iechyd a Diogelwch
- Pa weithdrefnau a geir ar gyfer triniaeth feddygol a chymorth cyntaf?
- A oes gennych chi neu unrhyw aelod o staff dystysgrif cymorth cyntaf gyfredol?
- A oes gennych bolisi meddyginiaeth os bydd yn rhaid i fy mhlentyn gymryd meddyginiaeth?
Costau
- Beth yw cost mynychu bob sesiwn?
- Pryd fydd yn rhaid i mi dalu?
- A fydd yn rhaid i mi dalu ffi cadw os bydd fy mhlentyn yn sâl, neu'n mynd ar wyliau?
- A godir y swm llawn fel arfer, neu gyfran ohono yn unig?
Argaeledd
- Beth yw eich oriau agor?
- Ydych chi ar agor yn ystod y tymor, y gwyliau neu drwy gydol y flwyddyn?
Gweithgareddau
- Pa fath o weithgareddau a gynhelir?
- A anogir y rhieni i helpu gydag unrhyw weithgareddau neu deithiau?
- A oes man chwarae awyr agored diogel, wedi'i oruchwylio?
- A oes man distaw i blant ymlacio/cysgu?
- A oes gennych offer a deunyddiau priodol i blant o bob oedran?
Cydraddoldeb
- Sut y gofelir am blant ag anghenion arbennig?
- A anogir bechgyn a merched i ddefnyddio'r holl offer?
- Pa ieithoedd a siaredir?
Bwyd
- A ddarperir bwyd?
- A yw'n faethlon ac yn amrywiol?
- A yw'r bwyd yn ystyried gwahanol gefndiroedd diwylliannol?
Staffio
- Beth yw'r cymarebau plentyn ac aelod o staff?
- Pa gymwysterau mae eich staff yn meddu arnynt?
- Pa hyfforddiant mae'r staff wedi ymgymryd ag ef yn ddiweddar?
- A oes gweithiwr allweddol ar gyfer fy mhlentyn?
- Ers pryd rydych wedi bod ar agor?
Polisïau
- A oes cyfnod ymgartrefu?
- A anogir y rhieni i dreulio amser gyda'r plentyn i ymgartrefu?
- A oes polisi rhannu gwybodaeth gyda rhieni?