I rieni
Ar ôl i chi ymweld â'r darpar gyfleuster gofal plant dyma rai cwestiynau i chi ofyn i chi eich hun.
Iechyd a Diogelwch
- Pa dystiolaeth a gafwyd o ddiogelwch yn yr adeilad?
- A oedd nifer y plant yn bresennol o fewn uchafswm y dystysgrif gofrestru?
Awyrgylch
- A roddwyd croeso i chi a'ch plentyn?
- A oedd y plant eraill yn edrych yn fodlon, yn dangos diddordeb ac yn fywiog?
- A oedd cyfleoedd i chi a'ch plentyn gael sylw unigol?
Gweithgareddau
- A oedd digon o weithgareddau ac a oeddent yn amrywiol ac yn llawn dychymyg?
- A gynhaliwyd y gweithgareddau yn yr awyr agored ac o dan do?
- Pa fath o offer dan do / awyr agored oedd ganddynt?
Eiddo
- A oedd yr eiddo yn lân, gyda system awyru dda, yn gynnes ac yn ddiogel?
- A oedd y bwyd yn iach ac yn amrywiol?
- Sut y cafodd plant ag anghenion arbennig eu gwasanaethu?
- Sut y cafodd ymddygiad y plant ei reoli?
- A oedd lle parcio ar gael i rieni?
Staff
- A oedd y staff yn gyfeillgar ac yn hawdd mynd atynt?
- Beth oedd yr oedolion yn ei wneud?
- Sut oedd yr oedolion yn siarad / gwrando / rhyngweithio â'r plant?
- A oedd y plant yn parchu ac yn deall yr oedolion, neu'n eu hanwybyddu?