Gall y gymuned neu grwpiau gwirfoddol, awdurdodau lleol neu grwpiau preifat gynnal grwpiau chwarae cofrestredig, a elwir hefyd yn grwpiau cyn ysgol a grwpiau chwarae ysgolion.
Dim ond ar gyfer sesiynau yn ystod y bore neu'r prynhawn y mae'r grwpiau chwarae ar agor, rhwng 2 a 4 awr, hyd at bum diwrnod yr wythnos. Mae'r rhan fwyaf o blant mewn grwpiau chwarae rhwng 2 ½ a 5 oed. Ni ddarperir prydau bwyd.
Mae gan y rhan fwyaf o grwpiau cyn ysgol yr un dyddiadau tymor ag ysgolion lleol ac maent ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig. Codir ffi ar gyfer grwpiau cyn ysgol fel arfer.
Mae grwpiau chwarae yn caniatáu i blant chwarae mewn grwpiau bach gan roi llawer o gyfleoedd iddynt ddysgu drwy amrywiaeth eang o weithgareddau llawn hwyl. Mae plant yn mwynhau amgylchedd chwarae diogel a chyffrous ac yn dysgu i ddatblygu'n gymdeithasol, yn emosiynol, yn ddeallusol ac yn gorfforol.
Gall grwpiau chwarae fod yn aelod o'r WPPA (Cymdeithas Grwpiau Chwarae Cyn ysgol Cymru). Gall grwpiau chwarae o fewn bwrdeistref sirol Caerffili gyflawni achrediad drwy Safonau Ansawdd PDBCaGP Caerffili.
Nod Cylch Meithrin yw rhoi'r cyfle i bob plentyn rhwng 2 ½ a 5 oed, ym mwrdeistref sirol Caerffili i fanteisio ar brofiadau cyn ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r pwyslais ar addysg drwy chwarae, am fod chwarae yn hanfodol i bob agwedd ar ddatblygiad plentyn. Mae grwpiau chwarae Cylch Meithrin cofrestredig ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod y tymor yn unig.
Gall Cylch fod yn aelod o'r Mudiad Ysgolion Meithrin, sy'n gymdeithas genedlaethol wirfoddol o grwpiau chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall y Cylchoedd o fewn Bwrdeistref Sirol Caerffili gyflawni achrediad drwy Safonau Ansawdd PDBCaGP Caerffili.