Gwarchodwyr plant

Gofalyddion proffesiynol yn ystod y dydd yw gwarchodwyr plant cofrestredig sy'n gweithio yn eu cartrefi eu hunain i ddarparu gofal a chyfleoedd dysgu i blant pobl eraill mewn amgylchedd teuluol. Maent yn gofalu am blant o chwe wythnos oed i wyth oed ac am eu bod yn gofalu am nifer fechan o blant gallant dalu sylw unigol iddynt. Maent yn hyblyg am yr oriau yn aml ac yn bodloni anghenion unigol, patrymau cysgu a bwydo neu brosiectau gwaith cartref.

Mae gofalyddion plant fel arfer wedi'u cofrestru i ofalu am hyd at dri phlentyn o dan bump oed a thri phlentyn rhwng pump ac wyth oed, gan gynnwys eu plant eu hunain. Gallant hefyd ofalu am blant hŷn hyd at bedair ar ddeg oed.

Mae llawer o warchodwyr plant yn fodlon darparu lle rhan amser i blant ac yn barod i fynd â phlant i grwpiau chwarae, ysgolion a chlybiau a mynd â hwy gartref. Gallant fanteisio ar ddiwrnod heulog neu ddiwrnod o eira annisgwyl, sy'n gyfle gwych i chwarae a dysgu yn yr awyr agored. Gall plant hefyd fwynhau profiadau bywyd go iawn gan gynnwys coginio, siopa, garddio, teithiau i'r parc a'r llyfrgell leol. Os bydd eich plentyn yn teimlo'n sâl neu'n flinedig gallant ymlacio, fel petaent gartref.

Gall y costau amrywio yn unol â'r gwarchodwr/wraig plant a'r gwasanaeth a gynigir ganddynt. Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Gwarchodwyr Plant yn argymell y dylid talu gwarchodwyr plant ymlaen llaw. Dylech gytuno ar ddull talu rheolaidd.

O dan y Credyd Treth Plant newydd efallai y bydd gennych yr hawl i gael help tuag at dalu am ofal plant.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i bob gwarchodwr/wraig plant:

  • Fod wedi'u cofrestru gan yr Arolygiaeth Safonau Gofal yng Nghymru cyn iddynt ddechrau gweithio gyda phlant.
  • Cael cytundeb ysgrifenedig gyda rhieni pob plentyn maent yn gofalu amdanynt. Dylid adolygu'r contract hwn o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae'r contract hwn yn rhwymo yn gyfreithiol i gyd-fynd â'ch anghenion chi a'ch gwarchodwr/wraig plant. Dylai amlinellu'n glir yr hyn a ddisgwylir gan bob parti. Dylech chi a'ch gwarchodwr/wraig plant gadw copi ohono.
  • Yn ystod y cyfnod 'setlo', sef dwy i bedair wythnos fel arfer, efallai y gellir llunio contract ar wahân neu ychwanegu cymal ar wahân a dod i gytundeb i alluogi'r gwarchodwr/wraig plant neu'r rhieni i addasu neu ddod â'r trefniadau i ben heb roi'r cyfnod hysbysu arferol (sy'n bedair wythnos fel arfer).

Dylid ystyried y pethau canlynol wrth lunio eich contract:

Costau

  • Ffioedd a threfniadau talu.
  • A oes unrhyw gostau ychwanegol fel prydau bwyd neu glytiau?
  • A oes yn rhaid i chi dalu ar gyfer gwyliau banc a chyfnodau pan fyddwch chi neu'ch gwarchodwr/wraig ar wyliau?
  • A fydd yn rhaid i chi dalu pan fydd eich plentyn neu eich gwarchodwr/wraig yn sâl? A oes gostyngiad ar gyfer gofalu am ddau blentyn neu fwy?

Argaeledd

  • Yr amseroedd mae eich gwarchodwr/wraig plant ar gael i ddarparu gofal.
  • Beth fydd yn digwydd os byddwch yn hwyr yn mynd i gasglu eich plentyn?
  • A fydd y gwarchodwr/wraig yn casglu'r plentyn o'r ysgol/grwp chwarae ac ati?
  • Beth fydd yn digwydd pan fydd eich gwarchodwr/wraig plant ar wyliau neu'n sâl?
  • Faint o rybudd sydd angen i chi ei roi am newidiadau i'r contract?

Dylech gyfathrebu'n rheolaidd â'ch gwarchodwr/wraig plant a sefydlu perthynas weithio dda.

Rhowch wybod i'ch gwarchodwr/wraig plant am batrymau cysgu, ei hoff fwyd a'r bwyd nad yw'n hoff ohono, alergeddau a chyflyrau meddygol ac os oes gennych eiriau arbennig ar gyfer pethau penodol. Dylech siarad â'ch gwarchodwr/wraig plant yn rheolaidd am ddatblygiad eich plentyn.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol cadw dyddiadur bob dydd ar gyfer eich gwarchodwr/wraig plant a'r plentyn sy'n cynnwys manylion am fwydo, cysgu a mynd i'r toiled neu ar gyfer plant hyn nodiadau am lyfrau neu brosiectau maent yn gweithio arnynt.

Cofiwch, gall eich gwarchodwr/wraig plant fod yn ffrind da ond gallant deimlo'n werthfawr os byddwch yn gwrtais, yn brydlon ac yn talu ar amser.