Gall y gymuned neu grwpiau gwirfoddol, awdurdodau lleol neu grwpiau preifat redeg meithrinfeydd dydd cofrestredig.
Mae'r rhan fwyaf ohonynt ar agor o 8am i 6pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener a gellir trefnu llefydd llawn amser a rhan amser i fodloni gofynion eich teulu. Gellir eu cofrestru ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar a darparu gofal diwrnod llawn, gweithgareddau addysgol a llawn hwyl i fabanod a phlant hyd at 5 oed.
Mae rhai meithrinfeydd yn cynnal clybiau gwyliau yn ystod gwyliau'r ysgol a gwasanaeth hebrwng sy'n darparu gofal cyflawn i blant oedran ysgol rhwng 3 a 8 mlwydd oed.
Gall meithrinfeydd yn ystod y dydd fod yn aelod o'r Gymdeithas Meithrinfeydd Dydd Genedlaethol (NDNA). Maent yn anelu at wella'r broses o ddatblygu ac addysgu plant yn ystod eu blynyddoedd cynnar, drwy ddarparu gwasanaethau cymorth. Maent yn datblygu, yn annog ac yn cynnal safonau uchel mewn addysg ac yn gofalu am les plant, teuluoedd a'r gymuned leol.
Gall meithrinfeydd dydd o fewn bwrdeistref sirol Caerffili gael achrediad drwy'r Bartneriaeth Datblygu'r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili (PDBCaGP) 'Safonau Ansawdd; carreg gamu at ansawdd'. Mae'r staff yn gymwys neu'n gweithio tuag at gael gymhwyster ac mae pob un ohonynt wedi cael Archwiliad y Ganolfan Cofnodion Troseddol.
Mae llawer o feithrinfeydd sy'n aelod o'r NDNA wedi cyflawni achrediad 'Quality Counts' yr NDNA neu'n gweithio tuag ato.
Gall y costau amrywio o dan y Credyd Treth Plant newydd ac efallai y bydd gennych hawl i gael help tuag at dalu am ofal plant.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Cymdeithas Meithrinfeydd Dydd Genedlaethol - 0870 774 4244
E-bost: info@ndna.org.uk
Safle We: www.ndna.org.uk