Rhieni a Thwdlod

Mae Cylchoedd Ti a Fi yn darparu cyfleoedd chwarae i blant a chyfleoedd cymdeithasol i rieni i gyfarfod mewn amgylchedd anffurfiol am gost resymol.

Maent ar gyfer plant o dan 2 1/2 oed ac maent yn darparu amgylchedd bodlon, diogel a chyffrous i blant i gyfarfod, cymdeithasu a chwarae. Mae'n rhaid i'r rhiant/gofalydd aros gyda'r plentyn drwy gydol y sesiwn.

Nid oes angen iddynt fod wedi'u cofrestru gyda'r Arolygiaeth Safonau Gofal yng Nghymru.

Mae MYM ( Mudiad Ysgolion Meithrin) yn cefnogi cylchoedd Ti a Fi drwy gyfrwng y Gymraeg.Gallant roi help a gwybodaeth am sefydlu grwp yn eich ardal leol.

Mae'r Gymdeithas Grwpiau Chwarae Cyn Oedran Ysgol yng Nghymru yn cefnogi cylchoedd Ti a Fi drwy gyfrwng y Saesneg. Gallant roi help a gwybodaeth am sefydlu cylch yn eich ardal leol.