Ydych chi’n edrych am wybodaeth, gwybodaeth neu gyngor ar weithgareddau hamdden i blant neu ofal plant ym mwrdeistref sirol Caerffili, ond ddim yn siŵr o ble i ddod o hyd i’r wybodaeth?
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) yn darparu cyngor a gwybodaeth am ddim ar ddetholiad o opsiynau gofal plant a gweithgareddau i blant 0-20 oed, ei theuluoedd a’i gofalyddion. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am feithrinfeydd, gofalyddion plant, clybiau allan o oriau ysgol, grwpiau chwarae a grwpiau Rhiant a Thwdlod. Rydym hefyd yn cynnig cyngor a chymorth ar sut i dalu am ofal plant a gweithio ym maes gofal plant. Cewch nawr ddefnyddio ein cyfleuster chwilio ar lein am ofal plant yn y fwrdeistref sirol.
Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid (GGI) yn darparu gwybodaeth am ddim i bobl ifanc 11-25 oed sy’n chwilio am weithgareddau hamdden fel clybiau ieuenctid a dosbarthiadau ffitrwydd. Mae gennym hefyd fanylion cyswllt gwasanaethau cynorthwyol ar draws y fwrdeistref.
Ein cyfeiriad gwe yw www.caerffili.gov.uk/ieuenctid neu e-bostiwch ni ar ggid@caerffili.gov.uk gydag unrhyw gwestiynau.