A. Mae'r Arolygiaeth Safonau Gofal yng Nghymru (CSIW) yn gwneud yn siwr bod ein gwasanaethau yn bodloni'r safonau angenrheidiol ac mae'n gyfrifol am reoleiddio gwasanaethau gofal dydd i blant. Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, grwpiau chwarae, rhai crèches, meithrinfeydd dydd, clybiau y tu allan i oriau ysgol a rhai cynlluniau chwarae. Nid yw'n cynnwys nanis ac au pairs.
Mae'n rhaid i'r darparwyr fod yn rhai cofrestredig os ydynt yn gweithredu am fwy na 2 awr y dydd neu am fwy na 6 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn. Bydd y CSIW yn penderfynu pwy all ddarparu gwasanaethau gofal plant, arolygu a gwneud yn siwr y caiff yr isafswm safonau eu bodloni a delio â chwynion.
I gael rhagor o wybodaeth am bolisïau a rheoliadau gofal plant cysylltwch â
CSIW
Unedau 4-5 Charnwood Court,
Heol Billingsey,
Parc Nantgarw,
Nantgarw,
Caerdydd,
CF15 7QZ
Ffôn: 01443 848 450
Gwefan: www.wales.gov.uk/subisocialpolicycarestandards
A. Cysylltwch â Phartneriaeth Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili ar (01443) 863232 neu anfonwch e-bost at eydcp@caerphilly.gov.uk