|
Parc Busnes Oakdale
Mae'r gwaith o adfywio a datblygu hen safle Pwll Glo Oakdale yn
esiampl wych o ddatblygiad sy'n cwmpasu gweledigaeth strategol hirdymor
gyda gweithio mewn partneriaeth er mwyn cael mynediad i ystod o
ffynonellau cyllido yn cynnwys yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r datblygiad
wedi bod yn sensitif i anghenion y gymuned a'r amgylchedd, ac mae'n
parhau i fod felly.
Hen safle Pwll Glo Oakdale yw'r safle 400 erw, a fe gymerodd chwe
mlynedd a dros £10 miliwn i'w adfer, gan greu un o'r llwyfandiroedd
mwyaf yng Nghymoedd y de sy'n cwmpasu dros 100 erw. Wedi iddo gael
ei gwblhau, mae gan y Parc Busnes y potensial i greu 5,000 o swyddi
newydd ar gyfer yr economi leol, gwerth £100 miliwn y flwyddyn.
Mae'r safle eisoes wedi denu prosiectau mewnfuddsoddi sylweddol,
ac mae cynigion i ddatblygu'r safle yn y dyfodol, gan ddarparu cymysgedd
o adeiladau i ddiwallu anghenion busnesau modern. |
|