Ble a sut i ddod o hyd i ni - Ffordd Fenter Sirhywi
Bydd mynediad i Barc Busnes Oakdale yn cael ei wella yn sgîl
adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru
wedi cymeradwyo credydau'r Fenter Cyllid Preifat (M.C.P) i ddylunio,
adeiladu, ariannu a gweithredu Ffordd Fenter Sirhywi.
Bydd y ffordd arfaethedig hon o ansawdd uchel yn cryfhau rhwydwaith
strategol y priffyrdd yng Nghwm Sirhywi, gyda mynediad i'r parc
busnes ar y pen gorllewinol. Bydd tua 4.3km o ffordd sengl yn cynnwys
dau gyswllt allweddol ar draws y cwm. Amcangyfrif y gost cyfalaf
yw £38 miliwn.
Dewiswyd Sirhowy Enterprise Way Ltd, partneriaeth rhwng Laing Investments a Costain, i ddylunio, adeiladu, ariannu a gweithredu Ffordd Fenter Sirhywi am 30 mlynedd.
Mae'r gwaith o adeiladu Ffordd Fenter Sirhywi yn allweddol i ddatblygiad
llawn Parc Busnes Sirhywi, a dechreuodd gwaith ar y safle ym mis
Ionawr 2004. Mae'r Cyngor wedi gwarantu y bydd yr effeithiau amgylcheddol
mor fach â phosibl.
Bydd y cynllun, sydd wrth galon y fwrdeistref sirol, yn gwella
rhwydwaith strategol priffyrdd yr A4048/A472 i'r gogledd o Goed
Duon ac i'r dwyrain o Bontllan-fraith, yn ogystal â darparu
ffordd fynediad i Barc Busnes Oakdale.
|