Lleihau, Ailddefnyddio ac Ailgylchu

Mae Cyfarwyddeb Tirlenwi'r Undeb Ewropeaidd wedi newid y ffordd y rheolir gwastraff. Mae safleoedd i’w tirlenwi yn prysur brinhau yn y DU ac fe gydnabyddir nad ydyw'n ddewis cynaliadwy. Rhaid gwneud pob ymdrech i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Mae pob un o bartneriaid Project Gwyrdd wedi ymrwymo at leihau, ailddefnyddio ac yna ailgylchu a chompostio cymaint o wastraff â phosibl.

Rhaid i ni gyd gymryd cyfrifoldeb dros y gwastraff a gynhyrchwn a cheisio’i leihau. Dyma’r flaenoriaeth a’r dewis rheoli gorau.

Rhaid i ni wedyn ailddefnyddio cymaint o wastraff â phosibl. Gofynnwn i'r cyhoedd feddwl yn ddyfeisgar a throi cefn ar y 'diwylliant gwastraffus' sydd wedi datblygu yn y gymdeithas fodern.

Rhaid i ni i gyd ailgylchu a chompostio’r gwastraff na ellir ei ailddefnyddio. Mae’r holl awdurdodau lleol yn darparu’r cyfleusterau ac yn addysgu’r cyhoedd am bwysigrwydd rheoli gwastraff. Mae’r lefel o gyfranogiad yn cynyddu, ond mae’r awdurdodau wedi’u hymrwymo at gynyddu’r cyfraddau ailgylchu a chompostio yn bellach a chyrraedd targedau’r UE.

Mae’r canlyniadau yn gwella, a dangosir hyn yn y canlynol:

Ffigyrau ailgylchu a chompostio 2013/14

Bro Morgannwg: 54.8%
Caerdydd: 49.7%
Caerffili: 57.6%
Casnewydd: 51.7%
Sir Fynwy: 62.9%

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi amlinellu cyfradd o ailgylchu a chompostio 70% o wastraff erbyn 2025 ac mae pob awdurdod wedi ymrwymo at gyflawni’r targedau hyn. Gall unrhyw wastraff ychwanegol, ar ben y lwfans a ganiateir i bob awdurdod fynd i safle tirlenwi, olygu dirwy o £200 am bob tunnell. Y flaenoriaeth yw cyrraedd y targedau er budd yr amgylchedd ac osgoi’r dirwyon hyn.

Did you know?

  • The decomposition of waste in the absence of air, gives off methane. As a molecule, methane is 23 times more potent as a green house gas than carbon dioxide.
  • In the UK approximately 2.4 million tonnes of methane is release each year. Emissions from municipal solid waste landfill sites account for 27% of the national total.
  • Methane is recovered from landfill operations, but the collection rate at best is only 10%. This has to be compared to residual waste treatment plants where the collection rates are between 40-60%.

Landfill has historically been the chosen method to deal with waste. This cannot continue and a solution has to be found.

  • A third of all the food we buy ends up being thrown away.
  • In Wales we throw away 330 000 tonnes of food waste each year.
  • Organic waste, such as fruit, vegetables and tea bags make up to 38% of the contents of the average dustbin.
  • An estimated 6.7 million tonnes of household food waste is produced each year in the UK, most of which could be eaten.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd are committed to divert as much food waste as possible for composting and plans are underway to implement new schemes.

  • Every year in the UK, we throw away 28 million tonnes of rubbish from households. This weighs the same as three and a half million double decker buses.
  • Every day 80 million food and drink cans end up in landfill.
  • In the UK, we fill about 300 million square metres of land with rubbish each year.
  • We produce 20 times more plastic in the UK than we did 50 years ago.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd is committed to recycling and composting as much waste as practically possible. Residents have a duty to reduce and reuse as much waste as possible so that we can all improve the environment. Waste is everyone's problem.

Wyddech chi?

  • Mae gwastraff sy'n dadelfennu heb aer yn cynhyrchu methan. Fel moleciwl, mae methan yn gallu cynhyrchu 23 gwaith yn fwy o nwyon ty gwydr nag yw carbon deuocsid.
  • Yn y DU, rhyddheir oddeutu 2.4 miliwn o dunelli o fethan bob blwyddyn. Mae allyriadau o wastraff dinesig solid mewn safleoedd tirlenwi yn 27% o'r cyfanswm cenedlaethol.
  • Cesglir methan o weithredoedd tirlenwi, ond 10% ar y mwyaf yw'r gyfradd gasglu. Rhaid cymharu hwn â gwaith trin gwastraff gweddilliol lle mae'r cyfraddau casglu'n llawer uwch (gweler y tudalen dewisiadau).

Tirlenwi yw'r modd traddodiadol o ddelio â gwastraff. Ni all hyn barhau ac mae'n rhaid cael hyd i ateb arall.

  • Mae un rhain o dair o'r bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw.
  • Yng Nghymru, rydym yn taflu 330,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn.
  • Gwastraff organig, megis ffrwythau, llysiau a bagiau te, yw hyd at 38% o gynnwys bin arferol.
  • Cynhyrchir oddeutu 6.7 miliwn o dunelli o wastraff bwyd cartref yn flynyddol yn y DU, a gellir bod wedi bwyta'r rhan fwyaf ohono.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Broject Gwyrdd wedi ymrwymo at ddargyfeirio cymaint o wastraff bwyd â phosibl i gael ei gompostio. Mae cyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer pob awdurdod.

  • Rydym yn taflu 28 miliwn o dunelli o sbwriel o gartrefi bob blwyddyn yn y DU. Mae hyn yn pwyso'r un faint â thua tair miliwn a hanner o fysus deulawr.
  • Mae 80 miliwn o dunelli o ganiau bwyd a diod yn mynd i safleoedd tirlenwi bob dydd.
  • Yn y DU rydym yn llenwi tua 300 miliwn o fetrau sgwâr o dir gyda sbwriel bob blwyddyn.
  • Rydym yn cynhyrchu 20 gwaith mwy o blastig yn y DU nag oeddem yn ei wneud hanner canrif yn ôl.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Project Gwyrdd wedi ymrwymo at ailgylchu a chompostio gymaint o wastraff ag sy'n bosibl. Mae dyletswydd ar breswylwyr i leihau ac ailddefnyddio gymaint o wastraff â phosibl er mwyn i ni gyd wella'r amgylchedd. Mae gwastraff yn broblem i bawb.

Manylion Cyswllt

Prosiect Gwyrdd
Lamby Way Depot
Lamby Way
Rumney
Cardiff
CF3 2HP

Ffôn: (029) 2071 7523
E-bost: GwybodaethProsiectGwyrdd@caerdydd.gov.uk

Do you want to contact us?

Prosiect Gwyrdd
Lamby Way Depot
Lamby Way
Rumney
Cardiff
CF3 2HP

Tel: (029) 2071 7523
E-mail: InfoProsiectGwyrdd@cardiff.gov.uk

Felly beth mae’r partneriaid yn ei wneud i gynyddu’r cyfraddau ailgylchu a chompostio?

  • Datblygu cynlluniau casglu gwastraff i’w ailgylchu a’i gompostio ar gyfer cartrefi.
  • Datblygu neu wella canolfannau ailgylchu gwastraff cartref neu safleoedd CA newydd.
  • Datblygu casgliadau gwastraff bwyd i’w compostio.
  • Datblygu safleoedd i bobl ddod â'u gwastraff i’w ailgylchu.
  • Buddsoddi mewn addysg ailgylchu i sicrhau y sylweddolir pwysigrwydd ailgylchu.
  • Datblygu ailgylchu masnachol.
  • Datblygu cytundebau neu adeiladu’r seilwaith i brosesu’r gwastraff sydd i’w ailgylchu a’i gompostio.
  • Hyrwyddo compostio yn y cartref.
  • Hybu lleihau gwastraff ac ailddefnyddio drwy ymgyrchoedd a blaengareddau addysg.

I ddarganfod mwy am wastraff ac ailgylchu yn ardaloedd yr awdurdodau lleol, dewiswch ddolen islaw.

Dolennau i wefannau addysg ailgylchu.

Unwaith y bydd y targedau yn cael eu cyflawni, rhaid darganfod datrysiad ar gyfer y gwastraff sy’n weddill, gan ei bod hi'n amlwg na all awdurdodau lleol barhau i lenwi safleoedd tirlenwi fel y maent wedi gwneud yn y gorffennol.