Caffael

Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Bro Morgannwg ac mae'n un o nifer o bartneriaethau caffael sy’n cyfranogi mewn rhaglen o brojectau ar gyfer trin gwastraff bwyd a gweddilliol a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r broses gaffael yn cael ei chynnal yn unol â’r Weithdrefn Ddialog Gystadleuol dan Gyfarwyddyd Caffael Sector Cyhoeddus yr Undeb Ewropeaidd (2004/18/EC), sy’n rhan o gyfraith y DU trwy'r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus SI 2006/5 a ddaw i rym o 31 Ionawr 2006.

Mae’r Egwyddorion Canllaw a amlinellir yn y Rheoliadau Contract Cyhoeddus SI 2006/5 fel a ganlyn:

  • Cyfrinachedd
  • Peidio â gwahaniaethu
  • Cydraddoldeb wrth drin yr holl gynigwyr; ac
  • Eglurder

Gellir cyrchu'r wybodaeth fanwl mewn perthynas â'r Weithdrefn Ddeialog Gystadleuol trwy www.gov.uk:
www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/225317/02_competitive_dialogue_procedure.pdf

Mae’r crynodeb canlynol yn amlygu prif gerrig milltir y broses Caffael a wnaethpwyd hyd yn hyn gan edrych ymlaen at ddyfarnu’r contract.

  • Profi’r Farchnad yn y lle cyntaf: Tachwedd 2006.
  • Cafodd Hysbysiad Gwybodaeth Blaenorol (PIN) Dyddlyfr Swyddogol yr Uned Ewropeaidd (OJEU) ei gyflwyno yn 2006. Mae PIN yn hysbysiad gwirfoddol sy'n ceisio rhoi hysbysiad ymlaen llaw i sefydliadau posibl o fwriad y Partneriaethau ar gyfer y project hwn. Ymatebodd dau sefydliad ar hugain, gan nodi diddordeb marchnad cryf ar gyfer project o'r fath. Roedd y datrysiadau technegol cychwynnol yn amrywio o:

    • Treuliad Anaerobig
    • Ffwrn aerglos
    • Triniaeth Biolegol Mecanyddol i Ynni o Wastraff
    • Ynni o Wastraff fel proses unigol
    • Cynnyrch bionwy
    • Nwyeiddio
    • Pyrolysis

     

  • Achos Busnes Cychwynnol wedi’i Baratoi: Gorffennaf 2007.
  • Cyflwynwyd adroddiadau i’r pedwar (4) Cyngor, ac eithrio Caerffili, nad oedd ar yr adeg honno, wedi ymuno â’r Bartneriaeth.

  • Achos Busnes Amlinellol (ABA) wedi’i Baratoi a’i Gymeradwyo gan Lywodraeth Cynulliad Cymru: Ionawr 2009.
  • Nodwyd technoleg cyfeirio o fewn yr ABA i sicrhau bod opsiwn unigol â’r potensial i ddarparu datrysiad fforddiadwy a darparadwy ar gyfer Strategaeth Gwastraff pob partner. Nid yw cyfeirio at dechnoleg yn penderfynu allbwn y broses Caffael ymlaen llaw. Dewiswyd y dechnoleg cyfeirio gan ddefnyddio’r meini prawf gwerthuso yn unol â Fframwaith Gwerthuso Cenedlaethol Llywodraeth y Cynulliad.

  • Mae’r (Bartneriaeth) Pum Cyngor Llawn yn Cymeradwyo’r Achos Busnes Amlinellol: Mehefin/Gorffennaf 2009.
  • Ymgymerwyd â gwaith ymgynghori allweddol ar y meini prawf gwerthuso a phwysiadau:

    • Digwyddiad Rhanddeiliaid ar 7 Medi 2009 – Gwahoddwyd Cynghorwyr Lleol, Aelodau Cynulliad, Grwpiau Diddordeb Amgylcheddol a Chyrff Statudol.
    • Holiadur i’r holl Aelodau Cyngor, Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad yn gysylltiedig â safleoedd hysbys posibl ac arolwg post ar hap i 15,000 o breswylwyr ar draws y pum awdurdod, yn ceisio safbwyntiau ar elfennau o'r meini prawf gwerthuso na osodwyd gan y gyfraith neu benderfyniad a wnaethpwyd gan y Cynghorau, roedd hyn yn cynnwys cyfrifoldeb technegol, amgylcheddol a chymdeithasol i helpu i ddatblygu'r cynllun marcio (Meini Prawf Gwerthuso)
    • Adolygiad Craffu ar Weithdy Dull Gwerthuso.
  • Hysbysiad wedi’i gyflwyno yn Nyddlyfr Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU): Tachwedd 2009.
  • Darparodd Hysbysiad Contract manwl wybodaeth fanwl mewn perthynas â’r project gan nodi: ‘Nid yw’r bartneriaeth yn bwriadu nodi datrysiad technoleg penodol a bydd felly’n ystyried unrhyw ddatrysiad technoleg sy’n cwrdd â gofynion y Bartneriaeth.’

  • Holiadur Cyn Cymhwyster sydd ar Gael: Tachwedd 2009.
  • Roedd holiadur cyn cymhwyster (PQQ) ar gael i'r holl Gyfranogwyr â diddordeb a ymatebodd i'r Hysbysiad Contract OJEU.

    Ystyriodd yr ymarfer PQQ y diddordeb a gyflwynwyd gan Potential Providers, gan edrych ar:

    • Meini prawf cymhwyster penodol (mae'r rheoliadau'n rhestru'r seiliau fydd yn golygu bod yn rhaid i, neu y gall, ymgeisydd gael ei ystyried yn anghymwys ac na chaiff ei ddewis). gallu technegol a
    • Safle economaidd ac ariannol, er mwyn nodi’r wyth ymgeisydd sy'n cwrdd â’r meini prawf PQQ Partneriaethau orau. Cafodd y fethodoleg ar gyfer y broses dewis PQQ a ddefnyddiwyd ei chymeradwyo cyn hysbysebu'r hysbysiad OJEU a'r ddogfennaeth PQQ ddilynol.
  • Cytunodd y Cydbwyllgor ar y Meini Prawf Gwerthuso a Phwysiadau: Ionawr 2010.
  • Cytunodd y Cydbwyllgor sy’n llywodraethu’r Prosiect ar y Meini Prawf a Phwysiadau cyffredinol ac mae’r rhain wedi’u gosod ar gyfer cyfnod llawn y broses Caffael. Cynhelir ymarfer gwerthuso manwl gan y Bartneriaeth ym mhob cam o'r Weithdrefn Ddialog Gystadleuol. Bydd y Datrysiadau’n cael eu sgorio yn erbyn meini prawf Lefel 1, Lefel 2, Lefel 3 a Lefel 4. Bydd y meini prawf gwerthuso manwl, methodoleg a fframweithiau sgorio yn cael eu cyfathrebu i'r holl Gyfranogwyr ym mhob cam o'r broses Gaffael.

  • Wedi’u Gwahodd i Gyfranogi mewn Dialog (ITPD) Rhestr ddewisedig o Gyfranogwyr yn cael eu Cyhoeddi: Mai 2010.
  • Mae’r ddogfennaeth gwahoddiad i Gyfranogi mewn Dialog yn cynnwys, ymysg gwybodaeth fanwl arall, y Gwahoddiad i Gyflwyno Datrysiadau Amlinellol (ISOS). Roedd hyn yn cynrychioli cam cyntaf y Weithdrefn Ddialog Gystadleuol. Pwrpas yr ISOS oedd cychwyn a datblygu dialog gyda'r Cyfranogwyr dewisedig gyda'r bwriad o ganfod y Tendr â’r Mantais Economaidd Mwyaf sy'n cwrdd orau â gofynion y Bartneriaeth ar gyfer y Project.

    Mae’r Cyfranogwyr a wahoddwyd i gyfranogi yn y Weithdrefn Ddialog Gystadleuol wedi'u rhestru isod yn nhrefn yr wyddor:

    • Covanta Energy Ltd
    • MVV Umwelt Gmbh
    • Shanks Group PLC
    • SITA UK Ltd
    • Urbaser Ltd
    • Veolia ES Aurora Ltd
    • Viridor Waste Management Limited
    • Waste Recycling Group Ltd
  • Gwahoddiad i Gyflwyno Datrysiad Manwl (ISDS) Rhestr Fer Wedi’i Chyhoeddi: Rhagfyr 2010.
  • Rhoddodd yr holiadur ISOS yn y ddogfennaeth ITPD gyfle i Gyfranogwyr gyflwyno’u Datrysiad(au) a dangos pam bod rhaid iddynt gyfranogi yn y Weithdrefn Ddialog Gystadleuol.

    Ymgymerwyd â’r gwaith i werthuso’r ‘Datrysiadau Amlinellol’ yn unol â'r meini prawf gwerthuso cyhoeddedig a benderfynwyd ymlaen llaw, methodoleg a fframweithiau sgorio fel y nodwyd yn y ddogfen ITPD. Am bob datrysiad, gwerthuswyd y meysydd canlynol:

    • Technegol a Gwasanaeth
    • Y Gallu i Ddarparu a Chyfanrwydd y Datrysiad
    • Ariannol a Masnachol
    • Cyfreithiol a Chytundebol
  • Gwahoddiad i Gyflwyno Datrysiadau Manwl (ISDS)
  • Mae'r cam hwn o’r Weithdrefn Ddialog Gystadleuol yn gofyn i Gyfranogwyr ar y Rhestr Fer i fireinio eu Datrysiadau Amlinellol ymhellach a chyflwyno cyflwyniad manwl o’u Datrysiadau yn y pen draw.

  • Gwahoddiad i Gyflwyno'r Tendrau Terfynol (ISFT)
  • Mae'r cam hwn o'r Weithdrefn Dialog Cystadleuol yn amlinellu gofynion y Bartneriaeth o ran cyflwyno'r Tendrau Terfynol ar ôl gwerthuso Datrysiadau Manwl y Cwmnïau.

    Nid yw dosbarthu'r ddogfen Gwahoddiad i Gyflwyno'r Tendr Terfynol yn golygu bod cam Dialog y Weithdrefn Dialog Cystadleuol wedi dod i ben. Y Bartneriaeth fydd yn penderfynu pryd y bydd y Dialog yn dod i ben a gofynnir am Dendrau Terfynol.

    Dod â'r Dialog i ben: Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Bwrdd Prosiect a Llywodraeth Cymru ar 17 Hydref 2012, daeth y cam Dialog Cystadleuol i ben ar 19 Hydref 2012.

  • Tendrau Terfynol: 20 Rhagfyr 2011
  • Yn dilyn proses werthuso drylwyr, cyhoeddwyd y rhestr fer, a gwahoddwyd y cwmnïau canlynol i gyflwyno tendrau terfynol.

    Veolia ES Aurora Ltd - Gwaith Dur Llanwern yng Nghasnewydd

    Viridor Waste Management Ltd - Parc Trident yng Nghaerdydd

    Nod y cam hwn oedd gwneud yr holl drefniadau terfynol ar gyfer y datrysiadau a gynigiwyd a datrys unrhyw faterion pwysig a oedd yn weddill. Mae'n bwysig nodi bod y Bartneriaeth yn gwahodd y Cwmnïau i gyflwyno Tendrau Terfynol yn seiliedig ar eu cynnig a wnaed ar y cam datrysiad manwl o'r broses gaffael.

  • Cyhoeddi enw'r Ceisydd a Ffefrir
  • Cafodd y Tendrau Terfynol eu gwerthuso yn unol â'r fethodoleg werthuso a gyhoeddwyd ac y cytunwyd arni. Argymhellwyd y Rheoliadau Contractau Cyhoeddus a Viridor gan Fwrdd y Prosiect ar 30 Ionawr, i'r Cydbwyllgor ar 7 Chwefror, ac fe'i cymeradwywyd gan bob Cyngor rhwng 26 Chwefror a 6 Mawrth.

  • Cwblhau'r Agweddau Ariannol a Dyfarnu'r Contract: Rhagfyr 2013
  • Yn dilyn cyflawniad rhwymedigaethau'r Partneriaeth o'r ôl-drafodaeth a rhwymedigaethau Alcatel i'r ymgeiswyr aflwyddiannus. Cwblhawyd dogfennau'r contract o fewn y paramedrau a nodwyd yn Llythyr y Ceisydd a Ffefrir. Dyfarnwyd y Contract i Viridor Waste Management Ltd - Trident Park yng Nghaerdydd ar 10fed Rhagfyr 2013.

  • Cyhoeddi Hysbysiad Dyfarnu'r Contract yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd: Rhagfyr 2013
  • Cyhoeddwyd hysbysiad dyfarnu yn y Cyfnodolyn Ewropeaidd. (PDF, 93Kb)

Dogfennau Caffael Gwasanaethau Trin Gwastraff ar gyfer Gwastraff Dinesig Gweddilliol:

Did you know?

  • The decomposition of waste in the absence of air, gives off methane. As a molecule, methane is 23 times more potent as a green house gas than carbon dioxide.
  • In the UK approximately 2.4 million tonnes of methane is release each year. Emissions from municipal solid waste landfill sites account for 27% of the national total.
  • Methane is recovered from landfill operations, but the collection rate at best is only 10%. This has to be compared to residual waste treatment plants where the collection rates are between 40-60%.

Landfill has historically been the chosen method to deal with waste. This cannot continue and a solution has to be found.

  • A third of all the food we buy ends up being thrown away.
  • In Wales we throw away 330 000 tonnes of food waste each year.
  • Organic waste, such as fruit, vegetables and tea bags make up to 38% of the contents of the average dustbin.
  • An estimated 6.7 million tonnes of household food waste is produced each year in the UK, most of which could be eaten.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd are committed to divert as much food waste as possible for composting and plans are underway to implement new schemes.

  • Every year in the UK, we throw away 28 million tonnes of rubbish from households. This weighs the same as three and a half million double decker buses.
  • Every day 80 million food and drink cans end up in landfill.
  • In the UK, we fill about 300 million square metres of land with rubbish each year.
  • We produce 20 times more plastic in the UK than we did 50 years ago.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd is committed to recycling and composting as much waste as practically possible. Residents have a duty to reduce and reuse as much waste as possible so that we can all improve the environment. Waste is everyone's problem.

Wyddech chi?

  • Mae gwastraff sy'n dadelfennu heb aer yn cynhyrchu methan. Fel moleciwl, mae methan yn gallu cynhyrchu 23 gwaith yn fwy o nwyon ty gwydr nag yw carbon deuocsid.
  • Yn y DU, rhyddheir oddeutu 2.4 miliwn o dunelli o fethan bob blwyddyn. Mae allyriadau o wastraff dinesig solid mewn safleoedd tirlenwi yn 27% o'r cyfanswm cenedlaethol.
  • Cesglir methan o weithredoedd tirlenwi, ond 10% ar y mwyaf yw'r gyfradd gasglu. Rhaid cymharu hwn â gwaith trin gwastraff gweddilliol lle mae'r cyfraddau casglu'n llawer uwch (gweler y tudalen dewisiadau).

Tirlenwi yw'r modd traddodiadol o ddelio â gwastraff. Ni all hyn barhau ac mae'n rhaid cael hyd i ateb arall.

  • Mae un rhain o dair o'r bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw.
  • Yng Nghymru, rydym yn taflu 330,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn.
  • Gwastraff organig, megis ffrwythau, llysiau a bagiau te, yw hyd at 38% o gynnwys bin arferol.
  • Cynhyrchir oddeutu 6.7 miliwn o dunelli o wastraff bwyd cartref yn flynyddol yn y DU, a gellir bod wedi bwyta'r rhan fwyaf ohono.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Broject Gwyrdd wedi ymrwymo at ddargyfeirio cymaint o wastraff bwyd â phosibl i gael ei gompostio. Mae cyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer pob awdurdod.

  • Rydym yn taflu 28 miliwn o dunelli o sbwriel o gartrefi bob blwyddyn yn y DU. Mae hyn yn pwyso'r un faint â thua tair miliwn a hanner o fysus deulawr.
  • Mae 80 miliwn o dunelli o ganiau bwyd a diod yn mynd i safleoedd tirlenwi bob dydd.
  • Yn y DU rydym yn llenwi tua 300 miliwn o fetrau sgwâr o dir gyda sbwriel bob blwyddyn.
  • Rydym yn cynhyrchu 20 gwaith mwy o blastig yn y DU nag oeddem yn ei wneud hanner canrif yn ôl.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Project Gwyrdd wedi ymrwymo at ailgylchu a chompostio gymaint o wastraff ag sy'n bosibl. Mae dyletswydd ar breswylwyr i leihau ac ailddefnyddio gymaint o wastraff â phosibl er mwyn i ni gyd wella'r amgylchedd. Mae gwastraff yn broblem i bawb.

Manylion Cyswllt

Prosiect Gwyrdd
Lamby Way Depot
Lamby Way
Rumney
Cardiff
CF3 2HP

Ffôn: (029) 2071 7523
E-bost: GwybodaethProsiectGwyrdd@caerdydd.gov.uk

Do you want to contact us?

Prosiect Gwyrdd
Lamby Way Depot
Lamby Way
Rumney
Cardiff
CF3 2HP

Tel: (029) 2071 7523
E-mail: InfoProsiectGwyrdd@cardiff.gov.uk