Beth yw’r opsiynau?

Trwy'r ymarfer profi’r farchnad mae nifer o gwmnïau sy’n cynnig amrywiaeth o ddatrysiadau technolegol gwahanol wedi dangos cryn ddiddordeb yn y bartneriaeth. Gellir rhannu'r datrysiadau hyn yn fras i ddwy adran, prosesau biolegol a phrosesau trin â gwres, ond fel y dangosir yn yr opsiynau isod, gellir cyfuno'r rhain.


Triniaeth Thermol Pellach (TThP) – Pyrolisis a Nwyeiddio

Mae Pyrolosis yn trin gwastraff ar dymheredd rhwng 300 ac 850 gradd Celsius yn absenoldeb ocsigen i greu ‘syna-nwy’ y gellir ei ddefnyddio i greu trydan. Cynhyrchir gwastraff solid, a elwir yn ‘Olosg’ weithiau. Mae hwn yn ‘wastraff peryglus ond gellir ei ddefnyddio yn lle glo mewn rhai hylosgwyr neu fel deunydd porthiant nwyeiddiwr.’ (Rhaglen Cefnogi Technolegau Newydd DEFRA 2007)

Mae nwyeiddio yn digwydd ar dymereddau uwchben 650 gradd Celsius, ychwanegir ocsigen ond dim digon i’r tanwydd ocsideiddio’n gyfan gwbl. Cynhyrchir ‘syna-nwy’ y gellir ei losgi i gynhyrchu trydan, y cynnyrch arall a gynhyrchir yw gweddillion solid (sorod neu ludw).  Mae yna farchnad botensial i ailgylchu’r cynnyrch hwn yn agreg ar gyfer y diwydiant adeiladu.

I gael y manylion llawn am TThP, ewch i:

Defra.gov.uk


Treuliad Anaerobig (TA) a chynhyrchu bio-nwy

Dyma'r broses lle torrir deunydd bioddiraddiadwy i lawr heb ocsigen mewn cynhwysydd caeedig. Wrth i’r deunydd gael ei dorri i lawr, cynhyrchir ‘bio-nwy’ a adferir ac yna gellir ei losgi i greu gwres a/neu drydan. Ar gyfartaledd, mae’r broses hon yn gweithredu ar dymheredd rhwng 30 a 60 gradd Celsius, yn diybnnu ar natur y treuliad anaerobic, ‘sych’ ynteu ‘wlyb’.
Dim ond i brosesu deunydd organig y gellir defnyddio’r broses hon, ac nid deunyddiau synthetig.

I gael y manylion llawn am hyn, ewch i: Defra.gov.uk

 

Dry anaerobic DigesterDry anaerobic Digester

Biodreulydd Sych Anaerobig


Ynni o Wastraff (YoW) gyda gwres a phŵer cyfunol

Hylosgi gwastraff dros 850 gradd Celsius yw hyn gyda digon o ocsigen i ocsideiddio’r tanwydd yn llawn. Yr ymdriniaeth arferol ar gyfer adfer ynni o losgi yw defnyddio gwres yr hylosgi trwy foeler i gynhyrchu stêm. Gellir defnyddio’r stêm i gynhyrchu pŵer trwy dyrbin stêm a’i ddefnyddio i gynhesu a/neu i greu pŵer.

Cynhyrchir dau waddod, y lludw gwaelod (20% - 30% o’r pwysau gwreiddiol a roddwyd mewn i’r ffatri) y gellir ei ailgylchu yn agreg, a gwaddod llygredd aer rheoledig (2% - 6% o'r pwysau gwreiddiol a ddaeth mewn i’r ffatri) a ystyrir yn beryglus ac mae angen ei waredu mewn safle tirlenwi gwastraff peryglus.

‘Ffatri gyfunol gwres a phŵer yw’r opsiwn mwyaf effeithlon ar y cyfan ar gyfer defnyddio ynni a adferir o wastraff trwy foeler stêm.’ (Rhaglen Cefnogi Technolegau Newydd DEFRA 2007)

 ‘Yn y DU rhaid i’r holl ffatrïoedd llosgi gwastraff gydymffurfio â’r Gyfarwyddeb Llosgi Gwastraff (CLlG). Mae’r gyfarwyddeb hon yn gosod y rheoliadau llymaf ar allyriadau ar gyfer prosesau thermol a reolir yn yr Undeb Ewropeaidd.’ (Rhaglen Cefnogi Technolegau Newydd DEFRA 2007)

I gael y manylion llawn am Losgi, ewch i: Defra.gov.uk

 

Portsmouth Exterier

Gwedd Allanol Portsmouth (trwy garedigrwydd V Energos, Dorset)

Astria in Bourdeaux

Astria ym Mordeaux

Are you interested in the future solutions to waste?

Would you like to join a ‘focus group’ to find out more?

Visit www.prosiectgwyrdd.co.uk
e-mail info@prosiectgwyrdd.co.uk and express an interest.

 

Limited places available, and £20 will be given to each representative to compensate for travel, and a buffet will be provided.

The next event takes place on 21 june, 2010 at 6.00 p.m. at county hall, Cardiff.

Would you please e-mail info@prosiectgwyrdd.co.uk and leave your name, address and contact telephone number.

Did you know?

  • The decomposition of waste in the absence of air, gives off methane. As a molecule, methane is 23 times more potent as a green house gas than carbon dioxide.
  • In the UK approximately 2.4 million tonnes of methane is release each year. Emissions from municipal solid waste landfill sites account for 27% of the national total.
  • Methane is recovered from landfill operations, but the collection rate at best is only 10%. This has to be compared to residual waste treatment plants where the collection rates are between 40-60%.

Landfill has historically been the chosen method to deal with waste. This cannot continue and a solution has to be found.

  • A third of all the food we buy ends up being thrown away.
  • In Wales we throw away 330 000 tonnes of food waste each year.
  • Organic waste, such as fruit, vegetables and tea bags make up to 38% of the contents of the average dustbin.
  • An estimated 6.7 million tonnes of household food waste is produced each year in the UK, most of which could be eaten.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd are committed to divert as much food waste as possible for composting and plans are underway to implement new schemes.

  • Every year in the UK, we throw away 28 million tonnes of rubbish from households. This weighs the same as three and a half million double decker buses.
  • Every day 80 million food and drink cans end up in landfill.
  • In the UK, we fill about 300 million square metres of land with rubbish each year.
  • We produce 20 times more plastic in the UK than we did 50 years ago.

Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd is committed to recycling and composting as much waste as practically possible. Residents have a duty to reduce and reuse as much waste as possible so that we can all improve the environment. Waste is everyone's problem.

Wyddech chi?

  • Mae gwastraff sy'n dadelfennu heb aer yn cynhyrchu methan. Fel moleciwl, mae methan yn gallu cynhyrchu 23 gwaith yn fwy o nwyon ty gwydr nag yw carbon deuocsid.
  • Yn y DU, rhyddheir oddeutu 2.4 miliwn o dunelli o fethan bob blwyddyn. Mae allyriadau o wastraff dinesig solid mewn safleoedd tirlenwi yn 27% o'r cyfanswm cenedlaethol.
  • Cesglir methan o weithredoedd tirlenwi, ond 10% ar y mwyaf yw'r gyfradd gasglu. Rhaid cymharu hwn â gwaith trin gwastraff gweddilliol lle mae'r cyfraddau casglu'n llawer uwch (gweler y tudalen dewisiadau).

Tirlenwi yw'r modd traddodiadol o ddelio â gwastraff. Ni all hyn barhau ac mae'n rhaid cael hyd i ateb arall.

  • Mae un rhain o dair o'r bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw.
  • Yng Nghymru, rydym yn taflu 330,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn.
  • Gwastraff organig, megis ffrwythau, llysiau a bagiau te, yw hyd at 38% o gynnwys bin arferol.
  • Cynhyrchir oddeutu 6.7 miliwn o dunelli o wastraff bwyd cartref yn flynyddol yn y DU, a gellir bod wedi bwyta'r rhan fwyaf ohono.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Broject Gwyrdd wedi ymrwymo at ddargyfeirio cymaint o wastraff bwyd â phosibl i gael ei gompostio. Mae cyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer pob awdurdod.

  • Rydym yn taflu 28 miliwn o dunelli o sbwriel o gartrefi bob blwyddyn yn y DU. Mae hyn yn pwyso'r un faint â thua tair miliwn a hanner o fysus deulawr.
  • Mae 80 miliwn o dunelli o ganiau bwyd a diod yn mynd i safleoedd tirlenwi bob dydd.
  • Yn y DU rydym yn llenwi tua 300 miliwn o fetrau sgwâr o dir gyda sbwriel bob blwyddyn.
  • Rydym yn cynhyrchu 20 gwaith mwy o blastig yn y DU nag oeddem yn ei wneud hanner canrif yn ôl.

Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Project Gwyrdd wedi ymrwymo at ailgylchu a chompostio gymaint o wastraff ag sy'n bosibl. Mae dyletswydd ar breswylwyr i leihau ac ailddefnyddio gymaint o wastraff â phosibl er mwyn i ni gyd wella'r amgylchedd. Mae gwastraff yn broblem i bawb.

Manylion Cyswllt

Prosiect Gwyrdd
Blwch SP 3120
Caerdydd
CF3 0DA

Ffôn: (029) 2071 7523
E-bost: info@prosiectgwyrdd.co.uk

Do you want to contact us?

Prosiect Gwyrdd
PO Box 3120
Cardiff
CF30 0DA

Tel: (029) 2071 7523
E-mail: info@prosiectgwyrdd.co.uk

Triniaeth Fiolegol Fecanyddol (TFF)

Didoli, yn fecanyddol, y gwastraff y gellir ei ailgylchu a’i gompostio. Gwneir hyn drwy ddefnyddio amryw o sgriniau a magnetau. Torrir y gwastraff gweddilliol trwy broses gompostio ac fe’i sychir.

Y cynnyrch a geir ar ôl y broses hon yw ‘allyriadau tebyg-i-gompost’ (ATG). ‘Bydd ansawdd yr ATG a gynhyrchir yn amrywio gyda gwahanol dechnolegau TFF...fel gwastraff, bydd angen cael ei eithrio o’r drwydded reoli gwastraff er mwyn cael ei ddefnyddio ar dir. Ar hyn o bryd, dim ond ar dir an-amaethyddol y gellir eu defnyddio a rhaid dangos eu bod o fudd ecolegol.'  (Rhaglen Gefnogi Technolegau Newydd DEFRA 2007)

I gael y manylion yn llawn am TFF, ewch i: Defra.gov.uk

 

Hanoever MBT Dorset Stack

TFF Hanoever Stac Dorset

Lubeck MBT

TFF Lubeck


Triniaeth Fiolegol Fecanyddol (TFF) gydag Ynni o Wastraff

Gellir troi’r cynnyrch a gynhyrchir wedi prosesau mecanyddol a biolegol TFF yn ‘danwydd sy’n deillio o sbwriel’ a’i losgi trwy broses thermol i gynhyrchu trydan.  

I gael manylion llawn TFF gydag ynni o wastraff, ewch i: Defra.gov.uk


Triniaeth Gwres Fecanyddol e.e. Ffwrn aerglos stêm

Mae ‘Triniaeth Gwres Fecanyddol’ yn derm cymharol newydd. Fe’i defnyddir i ddisgrifio cyfuniadau o dechnolegau mecanyddol a thermol, gan gynnwys technolegau sy’n dibynnu ar stêm...Mae’r gwastraff yn cael ei osod mewn stêm o dan bwysedd uchel...neu wres allanol, a ddilynir gan ddidoli mecanyddol a gwahanau’r gwastraff diheintiedig.’ (Rhaglen Cefnogi Technolegau Newydd DEFRA 2007)

‘Nid yw Triniaethau Gwres Mecanyddol wedi’u defnyddio llawer ar draws y byd...mae’r dechnoleg yn cael ei defnyddio i ddiheintio peth gwastraff clinigol ac mewn rhai prosesau rendro gwastraff anifeiliaid, cyn ei anfon i safle tirlenwi. Mae ei ddefnyddio ar gyfer gwastraff dinesig solid yn flaengaredd diweddar, ac mae’r profiad masnachol yn gyfyngedig ar y deunydd hwn fel porthiant.’  (Rhaglen Cefnogi Technolegau Newydd DEFRA 2007)

I gael y manylion llawn am Driniaeth Wres Fecanyddol, ewch i: Defra.gov.uk

Autoclaving containersBurning rubish

Triniaeth Gwres Mecanyddol

 

Sut y bydd modd canfod datrysiad?