Y Partneriaid
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili tua 28,000 hectar o dir gan gynnwys cymunedau Rhymni, Markham, Hollybush, Caerffili, Machen, Rhisga, Nelson, Crymlyn a Hafodyrynys. Mae’r awdurdod i’r gogledd o Gaerdydd ac ef yw’r pedwerydd awdurdod unedig mwyaf yng Nghymru. Mae yna gysylltiadau trafnidiaeth da, mae'r M4 yn hawdd i’w gyrraedd o’r de, Ffordd Blaenau’r Cymoedd i’r gogledd a chysylltiadau trên i Gaerdydd o Rhymni, Caerffili a Rhisga. Y boblogaeth ar hyn o bryd yw tua 170 000 gyda 75 000 o eiddo.
www.caerffili.gov.uk
Mae Cyngor Caerdydd yn brifddinas hanesyddol fywiog sy’n cael ei moderneiddio’n sylweddol ar hyn o bryd. Mae ganddi gysylltiadau gwych â thraffordd yr M4, sy’n rhedeg drwy’r awdurdod, a chysylltiadau rheilffordd â De Orllewin Cymru, y Cymoedd, Canolbarth Cymru a De Orllewin Lloegr.
Poblogaeth y sir yw tua 318 000 ar hyn o bryd, gyda 131 000 o gartrefi.
www.caerdydd.gov.uk
Cyngor Sir Fynwy yw'r awdurdod mwyaf yn y bartneriaeth, gydag 88 000 hectar o dir, ond gyda phoblogaeth o 87 000 hi yw’r lleiaf poblog. Mae’r 39 000 o gartrefi wedi’u lledaenu drwy ardal wledig yn bennaf, gyda chanolfannau poblog yn bennaf yn nhrefi marchnad Y Fenni, Cas-gwent a Threfynwy. Mae’r awdurdod yn gartref i ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y ffin ogleddol. O ganlyniad mae’r economi yn rhannol ddibynnol ar dwristiaeth, sy’n gyfrifol am 25% o gyflogaeth yr ardal.
www.sirfynwy.gov.uk
Did you know?
- The decomposition of waste in the absence of air, gives off methane. As a molecule, methane is 23 times more potent as a green house gas than carbon dioxide.
- In the UK approximately 2.4 million tonnes of methane is release each year. Emissions from municipal solid waste landfill sites account for 27% of the national total.
- Methane is recovered from landfill operations, but the collection rate at best is only 10%. This has to be compared to residual waste treatment plants where the collection rates are between 40-60%.
Landfill has historically been the chosen method to deal with waste. This cannot continue and a solution has to be found.
- A third of all the food waste we buy ends up being thrown away.
- In Wales we throw away 330 000 tonnes of food waste each year.
- Organic waste, such as fruit, vegetables and tea bags make up to 38% of the contents of the average dustbin.
- An estimated 6.7 million tonnes of household food waste is produced each year in the UK, most of which could be eaten.
Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd are committed to divert as much food waste as possible for composting and plans are underway to implement new schemes.
- Every year in the UK, we throw away 28 million tonnes of rubbish from households. This weighs the same as three and a half million double decker buses.
- Every day 80 million food and drink cans end up in landfill.
- In the UK, we fill about 300 million square metres of land with rubbish each year.
- We produce 20 times more plastic in the UK than we did 50 years ago.
Each of the local authorities in Prosiect Gwyrdd is committed to recycling and composting as much waste as practically possible. Residents have a duty to reduce and reuse as much waste as possible so that we can all improve the environment. Waste is everyone's problem.
Wyddech chi?
- Mae gwastraff sy'n dadelfennu heb aer yn cynhyrchu methan. Fel moleciwl, mae methan yn gallu cynhyrchu 23 gwaith yn fwy o nwyon ty gwydr nag yw carbon deuocsid.
- Yn y DU, rhyddheir oddeutu 2.4 miliwn o dunelli o fethan bob blwyddyn. Mae allyriadau o wastraff dinesig solid mewn safleoedd tirlenwi yn 27% o'r cyfanswm cenedlaethol.
- Cesglir methan o weithredoedd tirlenwi, ond 10% ar y mwyaf yw'r gyfradd gasglu. Rhaid cymharu hwn â gwaith trin gwastraff gweddilliol lle mae'r cyfraddau casglu'n llawer uwch (gweler y tudalen dewisiadau).
Tirlenwi yw'r modd traddodiadol o ddelio â gwastraff. Ni all hyn barhau ac mae'n rhaid cael hyd i ateb arall.
- Mae un rhain o dair o'r bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw.
- Yng Nghymru, rydym yn taflu 330,000 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn.
- Gwastraff organig, megis ffrwythau, llysiau a bagiau te, yw hyd at 38% o gynnwys bin arferol.
- Cynhyrchir oddeutu 6.7 miliwn o dunelli o wastraff bwyd cartref yn flynyddol yn y DU, a gellir bod wedi bwyta'r rhan fwyaf ohono.
Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Broject Gwyrdd wedi ymrwymo at ddargyfeirio cymaint o wastraff bwyd â phosibl i gael ei gompostio. Mae cyllid wedi'i glustnodi gan Lywodraeth y Cynulliad ar gyfer pob awdurdod.
- Rydym yn taflu 28 miliwn o dunelli o sbwriel o gartrefi bob blwyddyn yn y DU. Mae hyn yn pwyso'r un faint â thua tair miliwn a hanner o fysus deulawr.
- Mae 80 miliwn o dunelli o ganiau bwyd a diod yn mynd i safleoedd tirlenwi bob dydd.
- Yn y DU rydym yn llenwi tua 300 miliwn o fetrau sgwâr o dir gyda sbwriel bob blwyddyn.
- Rydym yn cynhyrchu 20 gwaith mwy o blastig yn y DU nag oeddem yn ei wneud hanner canrif yn ôl.
Mae pob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o Project Gwyrdd wedi ymrwymo at ailgylchu a chompostio gymaint o wastraff ag sy'n bosibl. Mae dyletswydd ar breswylwyr i leihau ac ailddefnyddio gymaint o wastraff â phosibl er mwyn i ni gyd wella'r amgylchedd. Mae gwastraff yn broblem i bawb.
Mae gan Gyngor Dinas Casnewydd boblogaeth aml-ddiwylliannol o 139 000 yn byw mewn tua 60 000 o eiddo. Mae'n awdurdod a chanddo dreftadaeth ddiwydiannol gref sy'n ehangu ei adrannau electronig ac ariannol. Mae ei arwynebedd tua 19 000 hectar, ac mae gan y ddinas gysylltiadau trafnidiaeth gwych â De Cymru gyda cysylltiadau rheilffordd â De Orllewin Lloegr a thraffordd yr M4.
www.newport.gov.uk
Cyngor Bro Morgannwg - Traffordd yr M4 yw'r ffin ogleddol, ac arfordir yw'r ffin ddeheuol ac mae'n rhyw 33 000 hectar. Mae gan yr awdurdod gysylltiadau ffordd a rheilffordd gwych yn ogystal â bod yn gartrefi i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Tua 123,000 yw'r boblogaeth ac mae ganddo 54 000 eiddo sy'n cynnwys cymunedau Y Barri, Porthceri, Rhws, Penarth, Pen-marc, Croes Cwrlwys, Llandunwyd, Y Bont-faen, Ystradowen a Llangrallo.
www.bromorgannwg.gov.uk
Fel awdurdodau Unedig , mae partneriaid Project Gwyrdd yn gyfrifol am gasglu, gwahanu a gwaredu gwastraff cartref. Mae gan y partneriaid gytundebau â’r sector preifat yn ogystal. Gelwir y gwastraff y mae pob awdurdod yn delio ag ef yn ‘wastraff dinesig’.
Ynglyn Â'r Project