Manylion cyswllt

Raglen Gwastraff Blaenau'r Cymoedd
Depo Canolog
Ystâd Ddiwydiannol Caebarlys
Brynmawr
NP23 4YF

Ffôn: (01495) 311556
Ffacs: (01495) 312537

E-bost: Raglen Gwastraff Blaenau'r Cymoedd

 

Partneriaid

Cliciwch ar logo i fynd i wefan yr Awdurdod

Wyddech chi?

Mae traean y bwyd a brynwn yn cael ei daflu yn y pen draw. Er mai bagiau te ac esgyrn pysgod yw rhywfaint o hyn, bwyd sy'n berffaith iawn y gellid bod wedi ei fwyta yw'r rhan fwyaf ohono.

Yng Nghymru rydym yn gwario ac yna'n gwastraffu rhyw £600 miliwn ar fwyd y gellid fod wedi ei fwyta. £420 y flwyddyn i bob cartref yw hynny ar gyfartaledd, ac i gartrefi â phlant mae hyd yn oed yn fwy, sef £610 y flwyddyn.

Trwy ailgylchu'ch gwastraff bwyd byddwch yn lleihau maint y bwyd mewn safleoedd tirlenwi. Mae bwyd sy'n pydru mewn safleoedd tirlenwi'n cynhyrchu nwy methan, sy'n cyfrannu at y newid yn yr hinsawdd a, gan fod cost anfon gwastraff bwyd i safleoedd tirlenwi'n codi, byddwch yn helpu'r Cynghorau a'u preswylwyr i arbed arian hefyd.

Yng Nghymru rydym yn taflu 410,000 o dunelli o fwyd a diod bob blwyddyn, sy'n anhygoel. Nid yw 90% ohonom yn sylweddoli faint o fwyd rydym yn ei daflu.

Mae ymchwil gyfredol yn awgrymu mai llysiau a ffrwythau ffres yw rhyw 40% (wrth ei bwysau) o'r bwyd sy'n cael ei daflu y gellid bod wedi ei fwyta.

Pe baem ni'n peidio â gwastraffu'r holl fwyd hwn, gallem atal digon o allyriadau carbon deuocsid (CO2) bob blwyddyn i fod yn gyfwerth â mynd ag 1 o bob 5 car oddi ar ffyrdd Cymru.

Mae Cymru'n cynhyrchu digon o wastraff i lenwi Stadiwm y Mileniwm bob 20 diwrnod. Yr her fwyaf i ni yw ystyried y gwastraff hwn yn adnodd. Mae popeth rydym yn ei daflu'n cynnwys deunyddiau gwerthfawr a'r potensial i gynhyrchu ynni.

Ffigurau ailgylchu diweddaraf

Cyfraddau ailgylchu a chompostio oddi wrth y partneriaid:

  • Caerffili 44%
  • Torfaen 43%
  • Blaenau Gwent 29%

Newyddion Diweddaraf

23.01.2012

Mae cam 'Gwahoddiad i Gyflwyno Datrysiadau Manwl' y broses gaffael newydd ei gwblhau. Cafodd y ddau gyda'r sgôr uchaf eu dethol a'u gwahodd drwy gam 'Cyflwyniad i Gyflwyno Tendrau Terfynol' y broses gaffael.

Darllen mwy

Gwastraff yng Nghymru

Yn ddiweddar mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mabwysiadu dogfen strategaeth newydd ar wastraff o'r enw 'Tuag At Ddyfodol Diwastraff - y Strategaeth Wastraff Drosfwaol ar gyfer Cymru'. Mae'r strategaeth yn nodi'r weledigaeth ar gyfer rheoli gwastraff mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru a sut y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a'r awdurdodau lleol yn adeiladu ar y strategaeth flaenorol, 'Yn Gall gyda Gwastraff: Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru (2002)'.

Mae dogfen 'Tuag At Ddyfodol Diwastraff' wedi cael ei datblygu i helpu Cymru i ymateb i'r heriau canlynol:

 

Cynaliadwyedd - Rydyn ni eisiau datblygu'n gynaliadwy trwy wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pobl a chymunedau.

Ôl troed ecolegol - Mae defnyddio'r ôl troed ecolegol yn mesur yr effaith ar yr amgylchedd. Mae rheoli ein gwastraff yn gyfrifol am ryw 15% o ôl troed ecolegol Cymru.

Y Newid yn yr Hinsawdd - Mae angen i ni leihau'r allyriadau nwyon ty gwydr sy'n cael eu cynhyrchu o wastraff. Mae dadelfeniad gwastraff bioddiraddadwy mewn safleoedd tirlenwi'n cynhyrchu allyriadau uniongyrchol. Mae gwastraff yn cyfrannu rhyw 4.7% o'r allyriadau nwyon ty gwydr uniongyrchol yng Nghymru.

Diogelwch Adnoddau - Mae angen i ni sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau, ar bris fforddiadwy, i gynnal ein heconomi a'n ffordd ni o fyw. Trwy ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon trwy atal gwastraff a thrwy gyfraddau ailddefnyddio ac ailgylchu uchel, mae diogelwch materol yn cael ei wella a'r ddibyniaeth ar adnoddau sylfaenol o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig yn cael ei lleihau.

Mae'r ddogfen yn disgrifio canlyniadau, polisïau a thargedau lefel uchel, a bydd yn un o gyfres o ddogfennau a fydd gyda'i gilydd yn creu'r cynllun rheoli gwastraff cenedlaethol i Gymru. Mae arnom angen cymdeithas sy'n canolbwyntio ar atal gwastraff ar bob cyfle ac sy'n ailgylchu, lle mae pawb yn ailgylchu lle bynnag y bônt - gartref, yn hamddena neu wrth eu gwaith.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Mae Tuag At Ddyfodol Diwastraff yn gosod targedau heriol ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, ond rhai y gellir eu cyflawni. Bydd newid y ffordd yr ydym yn delio â gwastraff yng Nghymru yn dod â buddion enfawr, i'r amgylchedd, yr economi a'n lles ni.

Mae gan bawb yng Nghymru ran i'w chwarae. Mae'r strategaeth yn nodi camau y mae'n rhaid i ni i gyd eu cymryd er mwyn i ni wireddu ein huchelgais i ddod yn genedl sy'n ailgylchu llawer (70%) erbyn 2025, ac yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.