Gelligaer Heddiw

Pan suddwyd Glofa Penallta yn fuan yn yr 20fed ganrif, roedd diwydiant mawr wedi cyrraedd. Ar ei phrysuraf, roedd yn cyflogi 3,200 o ddynion ac yn cynhyrchu bron i filiwn o dunelli o lo.

Roedd Penallta’n un o’r datblygiadau a sbardunodd dyfiant cyflym Gelligaer, yn enwedig yn ystod yr 1960au. Ymysg y newidiadau eraill, adeiladwyd y ffordd newydd rhwng Gelligaer a Phenpedairheol, oedd yn ffordd uchel a roddodd olygfeydd newydd i bobl ar draws yr ardal.

Er bod llawer wedi newid, mae calon Gelligaer yn dal i fod yno, gyda thafarn yr Harp a’r grŵp o dai y tu ôl i’r eglwys sy’n ein hatgoffa o hirhoedledd y gymuned hon. Mae ei hanes yn un hir oherwydd ei lleoliad strategol a’i hadnoddau cyfoethog.