Normaniaid a Chrefydd

Erbyn yr 8fed ganrif, roedd Teyrnas Morgannwg wedi’i sefydlu, ac roedd Gelligaer heddychlon yn rhan o Gantref Senghennydd. Cyrhaeddodd y Normaniaid yn 1066 a newidiodd hyn bopeth drwy’r wlad i gyd. Yn 1094, ymosodwyd ar Gelligaer, a lladdwyd rhai Arglwyddi Normanaidd pwysig. Gallwn weld gweddillion y castell tomen a beili Normanaidd hyd heddiw yng Ngelligaer.

Roedd pethau’n ansefydlog hyd ganol y 14eg ganrif, ond dyma’r cyfnod hefyd pan adeiladwyd eglwys bresennol St Catwg. Yn wreiddiol byddai’r eglwys wedi’i pheintio’n lliwgar gyda darluniau crefyddol ynddi, a byddai’r tu allan wedi’i wyngalchu gan sicrhau ei bod yn hawdd ei gweld drwy’r ardal i gyd. Heddiw mae’r eglwys yn dweud llawer mwy o’r hanes drwy’r arteffactau sydd ynddi - gan gynnwys carreg wedi’i cherfio o’r 10fed ganrif, cyffion y pentref a sgrin a gyflwynwyd gan David Morgan, a sefydlodd y siop fawr yng Nghaerdydd.

Mae Gelligaer hefyd yn adrodd stori anghydffurfiaeth - sefydlodd Edward Pritchard gynulleidfa o Fedyddwyr yn ei gartref, a bu John Wesley’n pregethu yn y pentref ar Fai 25 1744. Mae Capel Horeb (a adeiladwyd yn 1848) yn ein hatgoffa o symlrwydd anghydffurfiaeth.

Hanes Byr o Eglwys St. Catwg, Gelligaer www.parishofgelligaer.org.uk