Croeso
Mae Gelligaer yn gymuned hynafol gyda gorffennol Rhufeinig oedd wedi’i guddio nes y dechreuodd archeolegwyr yn yr Oes Edwardaidd gloddio Caer Fawr a Chaer Fach a chadarnhau bod Caer Rufeinig yn cuddio o dan y glaswellt.
Yn 2010, bron i 2000 o flynyddoedd wedi i’r Rhufeiniaid a’r Silures frwydro ar draws y bryniau hyn, mae Gelligaer unwaith eto yn adrodd stori’r Rhufeiniaid yng Nghymoedd De Cymru. Beth am ddod i weld y pentref sydd â hanes yn ymestyn yn ôl i gyfnodau cyn hanes a threftadaeth yn aros i chi ei archwilio?
Newyddion
Arweinlyfr newydd wedi’i gyhoeddi gan brosiect y Gaer Rufeinig
Lleoliad
Y cae sy’n cuddio Caer Rufeinig Gelligaer