Llwybr Cliwiau

image

Henffych! Fy enw yw Secundus ac roeddwn i’n grochenydd yma yn y Gaer Rufeinig. Ar rai o’r darnau crochenwaith a gafwyd ar y safle yma mae archeolegwyr wedi canfod fy marc i – SEC.FEC.

Pan oeddwn i’n byw yma, roeddwn i bob amser yn colli pethau, felly dw i wedi rhoi cyfres arbennig o gliwiau ar hyd eich llwybr. Beth am ddilyn fy nghliwiau a helpu i ddod o hyd i fy mhethau?

Lawrlwythwch y map Cliw Llwybr yma (PDF, 941Kb)