Parth Dysgu

Cover of school pack folder

Mae Caer Rufeinig Gelligaer ar ben y bryn rhwng y Taf a’r Rhymni. Mae’n Gaer Ategol a gloddwyd yn gyntaf tua diwedd y 19eg ganrif ac erbyn hyn mae ei gweddillion ynghudd o dan y glaswellt.

Ond, edrychwch o amgylch y pentref ac fe welwch dystiolaeth o’r gorffennol Rhufeinig yn ogystal â threftadaeth ehangach sy’n ddiddorol iawn – yn amrywio o’r gweddillion cyn-hanesyddol i Lofa Penallta.

Os ewch i ymweld â Chaer Gelligaer cewch weld rhywfaint o’r effaith a gafodd y Rhufeiniaid ar y tirlun ac ar fywydau’r Silures brodorol. Mae hefyd yn adrodd stori’r dynion a gloddiodd y safle – mae rhai o’r pethau a ganfuwyd i’w gweld erbyn hyn yn y Tŷ Weindio, Tredegar Newydd.

I fwynhau hanes Caer Rufeinig Gelligaer ar ei orau mae’n rhaid i chi ymweld â hi – mae’r pwynt gwybodaeth newydd yn lle cychwyn gwych – gallwch barcio ar ymyl y ffordd a mwynhau golygfa wych o’r Gaer. Mae meinciau picnic yno a digonedd o le ar gyfer gweithgaredd dosbarth.

Gallwch hefyd drefnu ymweliad 2 ganolfan - i’r Tŷ Weindio ac i’r Gaer - gyda llawer o weithgareddau hwyliog - cysylltwch â’r Swyddog Dysgu Gydol Oes yn y Tŷ Weindio i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Llwybr Canfod o amgylch y safle i’r teulu cyfan ei fwynhau.