Adran yr Athrawon

Mae Gelligaer yn bentref bychan gerllaw Ystrad Mynach, ac mae nifer o ysgolion yn teithio drwyddo ar eu ffordd i Lancaiach Fawr. Erbyn hyn mae’n edrych fel unrhyw gymuned arall yn y Cymoedd, ac eto llai na 2000 o flynyddoedd yn ôl roedd hon yn arhosfan bwysig i’r Rhufeiniaid. Byddai’n gadael i filwyr Rhufeinig orymdeithio rhwng Caerdydd ac Aberhonddu, a diogelu’r ardal rhag y Silures brodorol.

Mae’r adnoddau addysg, a ddatblygwyd yn rhan o brosiect Caer Rufeinig Gelligaer, wedi’u datblygu i helpu athrawon wrth astudio’r Rhufeiniaid, y Silures a hanes lleol yn y dosbarth, ac hefyd i annog ymweliadau â Chaer Gelligaer.

Datblygwyd adnoddau sy’n edrych ar:

  • Y Gaer, yr adeiladau unigol a’u pwrpas
  • Bywyd milwr – gan gynnwys bwyd, ymarfer corff, cyfri ac ati
  • Effaith y Rhufeiniaid ar yr ardal
  • Y Silures – yr elfennau oedd yn debyg i’r Rhufeiniaid a’r pethau oedd yn wahanol
  • Dadorchuddio’r gorffennol – Archeolegwyr yr Oes Edwardaidd a ddadorchuddiodd y gaer, a dehongli pethau a ganfuwyd.

Yn Nhymor yr Haf, bydd y Tŷ Weindio’n cynnal diwrnodau addysg 2 ganolfan pan fydd cyfle i wneud gwaith ymarferol gydag arteffactau Rhufeinig (rhai’n Rhufeinig a rhai wedi’u hail-greu), gweld y pethau a ganfuwyd yng Ngelligaer, gwisgo cymeriadau Edwardaidd a Rhufeinig a gweithgareddau ymarferol eraill. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Dysgu Gydol Oes yn y Tŷ Weindio.