Cynllunio Ymweliad

Mae Gelligaer ym Mwrdeistref Sirol Caerffili – lle mae 80% o’r ardal yn gefn gwlad gwyrdd prydferth. Mae’r bryniau yma’n cynnig golygfeydd gwych ac maent yn fannau delfrydol ar gyfer gweithgareddau o bob math yn cynnwys gwylio adar, seiclo ac hyd yn oed abseilio.

Mae gan yr ardal dreftadaeth gyfoethog o’r anheddiad cyn hanes ar Gomin Gelligaer a Thwmbarlwm, i straeon modern am drychineb a stoiciaeth gymunedol ym Mhrosiect Treftadaeth Cwm Aber sy’n cofio am drychineb glofaol mwyaf Prydain.

Roedd y Gaer Rufeinig yng Ngelligaer yn arhosfan bwysig i’r lluoedd Rhufeinig. Erbyn hyn mae’n rheswm pwysig i ymweld â chornel gudd o Dde Cymru sy’n gyfoethog ei golygfeydd, ei lletygarwch a’i threftadaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â’r ardal, ewch i www.visitcaerphilly.com neu ffoniwch 02920 880011 neu tourism@caerphilly.gov.uk