Mannau eraill i ymweld â nhw
Ar ôl arcwhilio Gelligaer mae nifer o fannau eraill y gallwch ymweld â nhw - i gael awyr iach neu i fwynhau’r dreftadaeth.
Yr atyniad agosaf yw Maenor Llancaiach Fawr – lle gallwch weld sut oedd bywyd yn 1645. Roedd Llancaiach Fawr yn rhan bwysig o stori’r gwaith cloddio yng Ngelligaer, am mai yma y cyfarfu’r Parch T.J. Jones ag aelodau o Gymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a’u perswadio i ymweld â’r safle.
Gerllaw hefyd mae Parc Penallta, lle mae gweddillion diwydiant cloddio’r ardal wedi’u hail siapio i greu parc gwledig gydag arsyllfa “Uchelfan” ragorol sy’n gadael i chi edrych ar olygfeydd gwych ar draws y dyffryn a golwg ryfeddol y ‘Sultan’, y cerflun ffigurol mwyaf yn y DU.
Lle pwysig arall i ymweld ag o yw’r Tŷ Weindio, lle gallwch archwilio stori’r ardal a gweld rhai o’r pethau a ganfuwyd yng Ngelligaer.
Mae nifer o safleoedd pwysig eraill i ymweld â nhw, gan gynnwys:
- Castell Caerffili
- Coedwig Cwmcarn
- Canolfan Dretfadaeth Cwm Aber
I gael rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau hyn a’r rhai y gallwch eu mwynhau drwy’r ardal gyfan, ewch i www.visitcaerphilly.com.