Y Rhufeiniaid yn Ymadael
Mae pobl wedi dadlau’n fawr ynglŷn â phryd y gadawodd y Rhufeiniaid Gelligaer.
Roedd John Ward, ffigur allweddol yn y gwaith cloddio cynnar ar y safle, yn credu bod y trigolion wedi gadael y safle’n wag oddeutu 100 OC. Roedd wedi seilio’r syniad yma ar y ffaith fod darnau o grochenwaith a saith darn arian o’r ganrif gyntaf wedi cael eu canfod a bod pump ohonynt yn dyddio o rhwng 69 a 98 OC.
Beth bynnag, newidiodd y farn yma pan gafwyd hyd i’r arysgrif Trasianig ar yr adeilad oedd yn dyddio’r gaer i 103-111OC. Yna roedd pobl o’r farn fod y gaer wedi cael ei defnyddio hyd 130 OC. Cysylltwyd y ffaith fod darnau arian a chrochenwaith cynharach yno â’r gaer bren gynharach ar y safle cyfagos.
Dros amser mae pobl wedi asesu’r pethau a ganfuwyd ar y safle eto ac, yn y 1950au, credwyd fod pobl wedi defnyddio’r gaer hyd ddiwedd yr ail ganrif OC, a bod amrywiol addasiadau i’r safle pan gafodd ei defnyddio eto yn hwyr yn y drydedd neu’n fuan yn y bedwaredd ganrif.
Yn ddiweddar mae Dr Peter Webster wedi ail archwilio’r pethau a ganfuwyd, ac erbyn hyn mae pobl yn credu’n gryf fod y milwyr wedi’u tynnu oddi yno erbyn 130 OC, a bod y lle wedi cael ei defnyddio eto i ryw raddau yn hwyr yn y drydedd ganrif neu’n fuan yn y bedwaredd ganrif - ond ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar ôl felly mae’n anodd dweud pa mor arwyddocaol oedd y defnydd.
Wedi i’r Rhufeiniaid adael, diflannodd y safle o’r golwg yn raddol bach, a defnyddiwyd y garreg i godi adeiladau megis Eglwys St Catwg. Mae’r ffaith fod caer wedi sefyll yno ar un cyfnod wedi’i gadw’n fyw yn enwau’r caeau – Gaer Fach a Chaer Fawr - ac enw’r gymuned – Gelligaer.