Datguddio’r gorffennol

Roedd pobl yn gwybod yn barod bod enwau’r caeau’n gliw i rywbeth oedd wedi bod ar y tir ar hyd ymyl Ffordd yr Eglwys - Gaer Fawr a Chaer Fach. Roedd pobl ers canrifoedd wedi bod yn canfod darnau o arian a darnau o grochenwaith, ond dechreuodd bobl roi ystyriaeth ddifrifol i’r posibilrwydd bod datblygiad Rhufeinig ynghudd yno pan aeth y Parch. T.J.Jones, Rheithor Gelligaer, i gyfarfod â Chymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd, pan ddaethant i ymweld â Llancaiach Fawr yn 1894.

Ar ôl codi arian, dechreuodd y gwaith cloddio cyntaf yn 1899, gan barhau hyd 1913. Roedd archeoleg yn wyddor newydd iawn ac arweiniwyd y cloddio gan ddynion busnes oedd â diddordeb ac oedd yn goruchwylio gweithwyr cyflogedig. Dros y blynyddoedd, daethant o hyd i strwythur y gaer, gan gynnwys yr Ysguboriau, yr Amddiffynfeydd a’r Porthdai, Tŷ’r Cadlywydd a’r Rhandy oedd yn cynnwys y Baddondai. Gwelsant hefyd lle byddai’r Maes Parêd wedi bod, yr Odyn Grochenwaith a safle claddedigaethau’r Rhufeiniaid. Roedd y cloddio’n waith caled ac roedd hi’n glawio’n ddi-baid, a doedd hi ddim yn hir cyn i bobl ddechrau galw’r safle’n “Water Works”!

Cafodd y canlyniadau i gyd eu dogfennu gan John Ward, oedd ar y pryd yn Guradur Amgueddfa ac Oriel Gelf y Ddinas yng Nghaerdydd. Ond, ymysg y cofnodion gorau mae’r ffotograffau du a gwyn rhagorol a dynnwyd gan Arthur Wright, ysgolfeistr lleol. Mae’r lluniau’n dangos sut daeth y cloddio’n destun rhyfeddod i bobl – daeth llawer i ymweld ac roedd adroddiadau yn y Times hyd yn oed.

Yn 1963 cloddiwyd y gaer bren gynharach ar gae cyfagos, a hyd yn oed yn y deng mlynedd diwethaf cafwyd arolygon geoffisegol o’r ardal hon.

Nawr mae’r safle’n Heneb Gofrestredig, ac ni chaiff neb wneud unrhyw waith cloddio na thirfesur heb ganiatâd. Mae’r cae lle mae’r brif gaer yn perthyn i berchennog preifat a gallwch weld ceffylau’n carlamu yno’n aml. Gallwch gerdded ar draws y cae a sylwi ar y siapiau yn y tir sy’n dangos lle mae rhai o’r waliau’n cuddio.

Mae pwynt gwybodaeth newydd i’w gael gerllaw Ffordd yr Eglwys, ac o’r fan yma gallwch ddychmygu mor arswydus fyddai golwg y gaer o edrych arno ar ben y bryn yma.