Ymgynghoriad Strategaeth Chwaraeon a Hamdden Egnïol

Bydd preswylwyr ym mwrdeistref sirol Caerffili yn cael cyfle i ddweud eu dweud a helpu i lunio dyfodol chwaraeon a hamdden egnïol ar draws yr ardal am y 10 mlynedd nesaf.

Cyflwyniad

Mae’r strategaeth hon yn pennu pwrpas a chyfeiriad y ddarpariaeth chwaraeon a hamdden egnïol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili – mae’n pennu’r weledigaeth a’r egwyddorion allweddol a fydd yn sail i benderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol.

Lle bo angen, bydd y broses o roi’r strategaeth ar waith yn cael ei chefnogi gan waith ymgynghori a chyfathrebu manylach, yn ogystal ag achosion busnes i’w gweithredu i ategu adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu perthnasol, y Cabinet a/neu’r Cyngor Llawn.

Beth yw chwaraeon a hamdden egnïol?

Mae’r diffiniad o Chwaraeon a Hamdden Egnïol mewn perthynas â’r strategaeth hon yn seiliedig ar yr amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol a ddarperir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar y cyd â’n partneriaid allweddol.

Y rhesymeg dros y strategaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cychwyn ar daith gyffrous ond heriol o wella a newid’, Y Cynllun Corfforaethol (2018-2023).

Er mwyn ateb heriau’r dyfodol, mae’n amlwg y bydd angen i ni wneud pethau’n wahanol – bod yn arloesol ac yn barod i ymaddasu ac ymateb i newid.

Er mwyn bod yn llwyddiannus, rhaid i’r Cyngor ailddiffinio ei rôl unigryw, a hynny ar lefel sylfaenol, h.y. yr hyn yr ydym yn ei wneud, y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu, a’r ffordd yr ydym yn eu darparu.

Ni allwn mwyach wneud yr hyn yr ydym bob amser wedi’i wneud – byddwn yn canolbwyntio llai ar ddarparu gwasanaethau yn uniongyrchol, a mwy ar alluogi nifer o sefydliadau eraill sydd eisoes yn darparu cyfleoedd rhagorol yn ein cymunedau.

Rhoi deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) Ar Waith

Bydd angen i ni fod yn feiddgar – rhoi’r gorau i wneud yr hyn yr ydym wedi ei wneud yn y gorffennol ac edrych i’r dyfodol, er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud a’r cyfleoedd yr ydym yn eu cynnig yn addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol – ymateb i anghenion newydd ein pobl ifanc ac oedolion yfory, ac, wrth gwrs, gofalu am anghenion gwahanol poblogaeth hˆyn sy’n cynyddu.

Rhaid i ni hefyd sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei ddarparu yn gynaliadwy, h.y. y gallwn fforddio cynnal y gwasanaeth yn y dyfodol.

Bydd dulliau gweithredu yn y dyfodol yn golygu bod yn rhaid i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu hiechyd eu hunain, yn ogystal â’u lefelau o weithgarwch corfforol. Rôl y Cyngor yw eu cefnogi i wneud hyn drostynt eu hunain.

Er mwyn cyflawni ‘agenda newid’, bydd yn rhaid i’r Cyngor hefyd wneud nifer o benderfyniadau allweddol. Felly, mae’n hollbwysig bod y strategaeth hon yn cynnwys rhesymeg a blaenoriaethau clir ar gyfer gweithredu. Rhaid iddi bennu gweledigaeth ar gyfer yr hyn yr ydym am ei gyflawni a’r ffordd y byddwn yn gwneud hynny, fel bod pawb yn deall yr hyn sy’n bosibl, beth i’w ddisgwyl gennym, yn ogystal â’r rolau sydd gan eraill i’w chwarae.

Yn olaf, nid yw’r strategaeth yn canolbwyntio ar adeiladau yn unig, ond ar y gweithgareddau y gellir eu cynnal mewn amrywiaeth eang o leoedd ar hyd a lled ein Bwrdeistref Sirol, a hynny o ganlyniad i nifer o gyfleoedd gwahanol a ddarperir gan amrywiaeth o sefydliadau.

Y Strategaeth

Strategaeth Chwaraeon a Hamdden egnïol  2019 - 2029 (PDF)

Equality Impact Assessment (PDF)

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad

Strategaeth Ddrafft ar gyfer Chwaraeon a Hamdden Egnïol 2019–2029 - Adroddiad ar yr Ymgynghoriad (PDF)

Atodiad 1 – Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu (PDF)

Atodiad 2 – Proffil o'r ymatebwyr (PDF)

Atodiad 3 – Ymatebion penagored i'r arolwg (PDF)

Atodiad 4 – Crynodeb o'r ymatebion ysgrifenedig (PDF)

Atodiad 4a – Ymateb gan y Cynghorydd Graham Simmonds (PDF)

Atodiad 4b – Ymateb gan y Cynghorydd Kevin Dawson (PDF)

Atodiad 4c – Ymateb gan Gerald Jones AS (PDF)

Atodiad 4d – Ymateb gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (PDF)

Atodiad 5 - Ymatebion trwy'r cyfryngau cymdeithasol (PDF)